Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/490

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.

36:15 Am hynny ARGLWYDD DDUW eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod.

36:16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd.

36:17 Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.

36:18 Holl lestri tŷ DDUW hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau y brenin a’i dywysogion; y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.

36:19 A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.

36:20 A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid:

36:21 I gyflawni gair yr ARGLWYDD trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.

36:22 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr ARGLWYDD a gyffrodd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl fren hiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd,

36:23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny.




LLYFR EZRA.

PENNOD 1

1:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,

1:2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.

1:3 Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW), yr hwn sydd yn Jerwsalem.

1:4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

1:5 Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem.

1:6 A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, â golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

1:7 A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:

1:8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mith-