3:12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?
3:13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.
3:14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;
3:15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;
3:16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.
3:17 Yno yr annuwiolion a beidiant a’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.
3:18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; nic chlywant lais y gorthrymydd.
3:19 Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.
3:20 Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid?
3:21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?
3:22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?
3:23 Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?
3:24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.
3:25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.
3:26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.
PENNOD 4
4:1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
4:2 Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?
4:3 Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.
4:4 Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.
4:5 Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.
4:6 Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith?;
4:7 Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?
4:8 Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant.
4:9 Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.
4:10 Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.
4:11 Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.
4:12 Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.
4:13 Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
4:14 Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu.
4:15 Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.
4:16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy Ilygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,
4:17 A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr?
4:18 Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:
4:19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd a’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
4:20 O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.
4:21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.
PENNOD 5