21:23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl.
21:24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr.
21:25 A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch,
21:26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt,
21:27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dych mygu ar gam yn fy erbyn.
21:28 Canys dywedwch, Pa le y mae ty y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?
21:29 Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,
21:30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.
21:31 Pwy a fynegaei ffordd efyneiwyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?
21:32 Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr.
21:33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef.
21:34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?
PENNOD 22
22:1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
22:2 A wna gŵr lesâd i DDUW, fel y gwna y synhwyrol lesad iddo ei hun?
22:3 Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?
22:4 Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?
22:5 Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn?
22:6 Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.
22:7 Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.
22:8 Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi.
22:9 Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.
22:10 Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;
22:11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant.
22:12 Onid ydyw DUW yn uchelder y nef oedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.
22:13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll?
22:14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.
22:15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?
22:16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.
22:17 Hwy a ddywedasant wrth DDUW, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy?
22:18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.
22:19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt.
22:20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.
22:21 Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.
22:22 Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.
22:23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.
22:24 Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.
22:25 A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.
22:26 Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at DDUW.
22:27 Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau.
22:28 Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.