Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg.

7 ¶ A darfu wedi y pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseph, a dywedyd, Gorwedd gyd â mi.

8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.

9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw!

10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi.

11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseph ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyd â mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

13 A phan welodd hi adael o hono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi o hono allan;

14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;

15 A phan glywodd efe ddyrchafu o honof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrëwas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth attaf i’m gwaradwyddo;

18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr ennynodd ei lid ef.

20 A meistr Joseph a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

21 ¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.

22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseph yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.

Pennod XL.

1 Bwtler a phobydd Pharaoh y’ngharchar, 4 dan siars Joseph. 5 Efe yn deongli eu breuddwydion hwy; 20 a’r rhai hynny yn dyfod i ben yn ol ei ddehongliad ef. 25 Annïolchgarwch y bwtler.

1 A darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aipht, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aipht.

2 A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:

3 Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseph yn rhwym.

4 A’r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5 ¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

6 A’r bore y daeth Joseph attynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharaoh, y rhai oedd gyd âg ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddyw?

8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.

9 A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;