Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/552

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.

40:16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol.

40:17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.

40:18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.

40:19 Pennaf o ffyrdd DUW ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesau ato ef.

40:20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

40:21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

40:22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant a’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant.

40:23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn.

40:24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef a bachau?

PENNOD 41

41:1 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

41:2 A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei en ef a mynawyd?

41:3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?

41:4 A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?

41:5 A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau?

41:6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?

41:7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?

41:8 Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.

41:9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?

41:10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

41:11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

41:12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystum ef.

41:13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef a’i ffrwvn ddauddyb- lyg?

41:14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

41:15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.

41:16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

41:17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.

41:18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.

41:19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef.

41:20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.

41:21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau.

41:22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef.

41:23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.

41:24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin.

41:25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhant.

41:26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig.

41:27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

41:28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

41:29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

41:30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

41:31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

41:32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

41:33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

41:34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.