Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/562

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.

21:8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gareion.

21:9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.

21:10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.

21:11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.

21:12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.

21:13 Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.


SALM 22

22:1 I’r Pencerdd ar Aieleth-hasahar, Salm Dafydd. Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iawchawdwriaeth, a geiriau fy llefain?

22:2 Fy NUW, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.

22:3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.

22:4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

22:5 Arnat ti y llefasant , ac achubwyd hwynt; ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.

22:6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.

22:7 Pawb a’r a’m gwelant a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,

22:8 Ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo

22:9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

22:10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy NUW ydwyt.

22:11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.

22:12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.

22:13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.

22:14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.

22:15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau; ac i lwch angau y’m dygaist.

22:16 Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed.

22:17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.

22:18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.

22:19 Ond tydi, ARGLWYDD, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo.

22:20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.

22:21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.

22:22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf.

22:23 Y rhai sydd yn ofni yr ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.

22:24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.

22:25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef.

22:26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

22:27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.

22:28 Canys eiddo yr ARGLWYDD yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.

22:29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.