Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/564

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

aethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.

25:18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau.

25:19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant.

25:20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.

25:21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthy.

25:22 O DDUW, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.


SALM 26

26:1 Salm Dafydd. Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf.

26:2 Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon.

26:3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

26:4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.

26:5 Caeais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddai.

26:6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf:

26:7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

26:8 ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.

26:9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:

26:10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.

26:11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.

26:12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD.


SALM 27

27:1 Salm Dafydd. Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?

27:2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.

27:3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.

27:44 Un peth a ddeisyfais i gan yr ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei deml.

27:5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i.

27:6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD.

27:7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.

27:8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD.

27:9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth.

27:10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn.

27:11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.

27:12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn.

27:13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.

27:14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.


SALM 28