Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/566

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

31:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Ynot ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.

31:2 Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.

31:3 Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.

31:4 Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.

31:5 I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.

31:6 Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD.

31:7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;

31:8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

31:9 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol

31:10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant.

31:11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.

31:12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.

31:13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth - pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.

31:14 Ond mi a obeithiais ynot ti, ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt.

31:15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.

31:16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was, achub fi er mwyn dy drugaredd.

31:17 ARGLWYDD, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.

31:18 Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.

31:19 Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!

31:20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.

31:21 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.

31:22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.

31:23 Cerwch yr ARGLWYDD, ei holl saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder.

31:24 Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD


SALM 32

32:1 Salm Dafydd, er athrawiaeth. Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.

32:2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.

32:3 Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

32:4 Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.

32:5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.

32:6 Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.

32:7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.

32:8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: i’m llygad arnat y’th gynghoraf.

32:9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid