arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.
34:12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
34:13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll.
34:14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
34:15 Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.
34:16 Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
34:17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.
34:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.
34:19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll.
34:20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.
34:21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.
34:22 Yr ARGLWYDD a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.
SALM 35
35:1 Salm Dafydd. Dadlau fy nadl, ARGLWYDD, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi.
35:2 Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth.
35:3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
35:4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
35:5 Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr ARGLWYDD yn eu herlid.
35:6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
35:7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid.
35:8 Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
35:9 A llawenycha fy enaid i yn yr ARGLWYDD: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
35:10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb â’i hysbeilio?
35:11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
35:12 Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.
35:13 A ninnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun.
35:14 Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.
35:15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
35:16 Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
35:17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.
35:18 Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhhth pobl lawer.
35:19 Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.
35:20 Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.
35:21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, Ha, gwelodd ein llygad.
35:22 Gwelaist hyn, ARGLWYDD: na thaw dithau; nac ymbella oddi wrthyf, O ARGLWYDD:
35:23 Cyfod, a deffro i’m barn, sef i’m dadl, fy NUW a’m Harglwydd.
35:24 Barn fi, ARGLWYDD fy NUW, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid.