Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fonodd ac a alwodd am Joseph: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharaoh.

15 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli.

16 A Joseph a attebodd Pharaoh, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a ettyb lwyddiant i Pharaoh.

17 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18 Ac wele yn esgyn o’r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dir yr Aipht.

20 A’r gwartheg culion a drwg a fwyttasant y saith muwch tewion cyntaf:

21 Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg, yn cyfodi o’r un gorsen.

23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hol hwynt.

24 A’r tywysenau teneuon a lyngcasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.

25 ¶ A dywedodd Joseph wrth Pharaoh, Breuddwyd Pharaoh sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharaoh.

26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.

27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyrein-wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

28 Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharaoh: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangasodd i Pharaoh.

29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aipht.

30 Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a’r newyn a ddifetha y wlad.

31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, o herwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

32 Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.

33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharaoh am wr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aipht.

34 Gwnaed Pharaoh hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymmered bummed ran cnwd gwlad yr Aipht dros saith mlynedd yr amldra.

35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharaoh, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

36 A bydded yr ymborth y’nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant y’ngwlad yr Aipht, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

37 ¶ A’r peth oedd dda y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei holl weision.

38 A dywedodd Pharaoh wrth ei weision, A gaem ni wr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo?

39 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn-gadair yn unig y byddaf fwy na thydi.

41 Yna y dywedodd Pharaoh wrth Joseph, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aipht.

42 A thynnodd Pharaoh ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseph, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,

43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail cerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.

44 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Myfi yw Pharaoh, ac hebot ti ni chyfyd gwr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aipht.

45 A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah