Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/570

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.

37:18 Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

37:19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.

37:20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.

37:21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

37:22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.

37:23 Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da; a da fydd ganddo ei ffordd ef.

37:24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.

37:25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu na’i had yn cardota bara.

37:26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.

37:27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.

37:28 Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.

37:29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.

37:30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.

37:31 Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.

37:32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

37:33 Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.

37:34 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.

37:35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.

37:36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.

37:37 Ystyr y perffaith, ac edrych at yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

37:38 Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

37:39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.

37:40 A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.


SALM 38

38:1 Salm Dafydd, er coffa. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.

38:2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf.

38:3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod.

38:4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

38:5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

38:6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

38:7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

38:8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

38:9 O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.

38:10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.

38:11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell.

38:12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.

38:13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.