Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/589

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?

77:14 Ti yw y DUW sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.

77:15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.

77:16 Y dyfroedd a’th welsant, O DDUW, Y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.

77:17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

77:18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

77:19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

77:20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.


SALM 78

78:1 Maschil i Asaff. Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: Gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.

78:2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd:

78:3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni,

78:4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.

78:5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant:

78:6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:

78:7 Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:

78:8 Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.

78:9 Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.

78:10 Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;

78:11 Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.

78:12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.

78:13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.

78:14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.

78:15 Efe a holltodd y creigiau yn anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.

78:16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

78:17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn eu erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.

78:18 A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.

78:19 Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

78:20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?

78:21 Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;

78:22 Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:

78:23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,

78:24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.

78:25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.

78:26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.

78:27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.

78:28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.

78:29 Felly y bwytasant, ac y llwyr-