Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Prawfddarllenwyd y dudalen hon


ych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharaoh, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.

16 Hebryngwch un o honoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid ê, myn einioes Pharaoh, ysbïwyr yn ddïau ydych chwi.

17 As efe a’u rhoddodd hwynt i gyd y’ngharchar dridiau.

18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.

19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth.

20 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21 ¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

22 A Reuben a’u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynir ei waed ef.

23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25 ¶ Joseph hefyd a orchymynodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un o honynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwytta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y lletty; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt y’ngenau ei ffettan ef.

28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

29 ¶ A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30 Dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymmerth ni fel ysbïwyr y wlad.

31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.

32 Deuddeg o frodyr oeddym ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyd â’n tad ni y’ngwlad Canaan.

33 A dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadêwch gyd â myfi un o’ch brodyr, a chymmerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.

35 ¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.

36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef attat ti eilwaith.

38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyd â chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.

PENNOD XLIII.

1 Jacob yn flin ganddo ollwng Benjamin. 15 Joseph yn croesawu ei frodyr. 31 Yn gwneuthur iddynt wledd.