102:17 Efe a edrych at weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
102:18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.
102:19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
102:20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
102:21 I fynegi enw yr ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
102:22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.
102:23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
102:24 Dywedais, Fy NUW, na chymer fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
102:25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
102:26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
102:27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
102:28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.
SALM 103
103:1 Salm Dafydd. Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
103:2 Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
103:3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
103:4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
103:5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
103:6 Yr ARGLWYDD sydd: yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
103:77 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
103:8 Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.
103:9 Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
103:10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.
103:11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
103:12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.
103:13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.
103:14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.
103:15 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
103:16 Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
103:17 Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant;
103:18 I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
103:19 Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.
103:20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
103:21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
103:22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.
SALM 104
104:1 Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
104:2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
104:3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
104:4 Yr hwn sydd yn gwneuthur