Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

soniasoch am dano? ai byw efe etto?

28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni; byw yw efe etto. Yna yr ymgrymmasant, ac yr ymostyngasant.

29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab.

30 A Joseph a frysiodd, (oblegid cynnesasai ei ymysgaroedd ef tu ag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.

31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymattaliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.

32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Aiphtiaid y rhai oedd yn bwytta gyd âg ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai yr Aiphtiaid fwytta bara gyd â’r Hebreaid, o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aiphtiaid.

33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ô1 ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ol ei ieuengctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.

34 Yntau a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bùm rhan na seigiau yr un o honynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gyd âg ef.

Pennod XLIV.

1 Dyfais Joseph i attad ei frodyr. 14 Ufudd ddeisyfiad Judah at Joseph.

Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau y gwŷr o fwyd, cymmaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un y’ngenau ei sach.

2 A dod fy nghwppan fy hun, sef y cwppan arian, y’ngenau sach yr ieuangaf, gyd âg arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ol gair Joseph, yr hwn a ddywedasai efe.

3 Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod.

4 Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant neppell, pan ddywedodd Joseph wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ol y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?

5 Onid dyma y cwppan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

6 ¶ Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na atto Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.

8 Wele, ni a ddygasom attat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom y’ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrattâem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?

9 Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwppan gyd âg ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaeth-weision i’m harglwydd.

10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwppan gyd âg ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddïeuog.

11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.

12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwppan a gafwyd yn sach Benjamin.

13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.

14 ¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.

15 A dywedodd Joseph wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gwr fel myfi ddewiniaeth?

16 A dywedodd Judah, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhâwn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ïe nyni, a’r hwn y cafwyd y cwppan gyd âg ef hefyd.

17 Yntau a ddywedodd, Na atto Duw i mi wneuthur hyn: y gwr y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fynu, mewn heddwch, at eich tad.

18 ¶ Yna yr aeth Judah atto ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, attolwg, dy was ddywedyd gair