13:4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.
13:5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.
13:6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.
13:7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.
13:8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.
13:9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.
13:10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb.
13:11 Golud a gasgler trwÿ oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega.
13:12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.
13:13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.
13:14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.
13:15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
13:16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.
13:17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.
13:18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.
13:19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.
13:20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.
13:21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn.
13:22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.
13:23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.
13:24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser.
13:25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.
PENNOD 14 14:1 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.
14:2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei uniondcr, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.
14:3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.
14:4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.
14:5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.
14:6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus.
14:7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.
14:8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.
14:9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd; ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.
14:10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi.
14:11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.
14:12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.
14:13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.
14:14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.
14:15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.
14:16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.
14:17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.
14:18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.
14:19 Y rhai drygionus a ymyostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.