26:12 A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.
26:13 Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.
26:14 Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely.
26:15 Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.
26:16 Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm.
26:17 Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau.
26:18 Fel dyn gwallgofus a daflo bentewion tân, saethau, ac arfau marwolaeth;
26:19 Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf?
26:20 Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.
26:21 Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.
26:22 Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.
26:23 Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddrll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.
26:24 Y digasog a ragrithia â’i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:
26:25 Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd-dra yn ei galon ef.
26:26 Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa.
26:27 Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a’r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel.
26:28 Y tafod celwyddog a gasa y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.
PENNOD 27 27:1 Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
27:2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.
27:3 Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.
27:4 Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?
27:5 Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.
27:6 Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.
27:7 Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys.
27:8 Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth.
27:9 Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.
27:10 Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.
27:11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.
27:12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
27:13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chmner wystl ganddo dros y ddieithr.
27:14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.
27:15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.
27:16 Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.
27:17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.
27:18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwÿtÿ o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.
27:19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.
27:20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.
27:21 Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod.
27:22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.
27:23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.