pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:
12:5 Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:
12:6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.
12:7 Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.
12:8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
12:9 A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
12:10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
12:11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12:12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn, nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.
12:13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.
12:14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.
CANIAD SOLOMON.
PENNOD 1
1:1 Cân y caniadau, eiddo Solomon.
1:2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin.
1:3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant.
1:4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
1:5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon.
1:6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun ms cedwais.
1:7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
1:8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.
1:9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd.
1:10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni.
1:11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
1:12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.
1:13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos.
1:14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.
1:15 Wele di yn deg, tŷ anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.
1:16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.
1:17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd, ein distiau sydd ffynidwydd.
PENNOD 2