mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.
2:7 A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.
2:8 Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:
2:9 A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.
2:10 Dos i’r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef.
2:11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:12 Canys dydd ARGLWYDD y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:
2:13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,
2:14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,
2:15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn,
2:16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol.
2:17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
2:18 A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol.
2:19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr ARGLWYDD? a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
2:20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod:
2:21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopau y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear.
2:22 Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?
PENNOD 3
3:1 Canys wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a’r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,
3:2 Y cadarn, a’r rhyfelwr, y brawdwr, a’r proffwyd, y synhwyrol, a’r henwr,
3:3 Y tywysog deg a deugain, a’r anrhydeddus, a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr huawdl.
3:4 A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.
3:5 A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa.
3:6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di:
3:7 Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl.
3:8 Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr ARGLWYDD, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
3:9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a’u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.
3:10 Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.
3:11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo; canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
3:12 Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
3:13 Yr ARGLWYDD sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bob¬loedd.
3:14 Yr ARGLWYDD a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
3:15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y