am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.
º15:3 Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl.
º15:4 Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes.
º15:5 Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim.
º15:6 Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni.
º15:7 Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg.
º15:8 Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a’u hochain hyd Beer-elim.
º15:9 Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Oimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.
PENNOD l6
º1 ANFONWCH oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion.
º2 Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.
º3 Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad.
º4 Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir.
º5 A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd, ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.
º6 Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau.
º7 Am hynny yr uda Moab am Moab, pob nn a uda: am sylfeini Cirhareseth y griddfenwch, yn ddiau hwy a drawyd.
º8 Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei pher winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.
º9 Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, a’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd.
º10 Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinliannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthuni i’w bloedd gynhaeaf beidic.’
º11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cirharcs.
º12 A phan weler blino o Moab ar iyr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo.
º13 Dyma y gair a lefarodd yr ARGLwynD am Moab, er yr amser hwnnw.
º14 Ond yn awr y llefarodd yr AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Aioab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di-rym.
PENNOD 17
º1 BAICH Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.
º2 Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno.
º3 A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gwedditi Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd ARGLWYDD y lluoedd.
º4 Ac ar y dydd hwnnw y bydd i