Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/679

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARGLWYDD y lluoedd yn goron ardderch¬owgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl;

º6 Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddyehwelant y rhyfel i’r porth.

º7 Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeil¬iornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.

º8 Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.

º9 I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai ft-dynnwyd oddi wrth y bronnau.

º10 Canys rhoddir gorchymyn ar orchy¬myn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw.

º11 Canys a bloesgni gwefusau, ac a thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth’ y bobl hyn.

º12 Y rhai y dywedtidd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol prffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando.

º13 Eithr gair yr ARGLWYBD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y siagler, ac y dalier hwynt.

º14 Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywod-isaethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem.

º15 Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.

º16 Am hynny fel hyn y dywed yr AR-eLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.

º17 A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches.

º18 A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.

º19 O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.

º20 Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddos. a ehul yw y cwrlid i ymdroi ynddo. — .

º21 Canys yr ARGLWYDD a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis ytng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithTed, ei ddieithr weithred.

º22 Acynawrna watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth ARGLWYDD DDUW y lluoedd ar yr holl dir.

º23 Clywch, a gwrandewch fy llais, ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.

º24 Ydyw. yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd; ac yn llyfnu ei dir?

º25 Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a’r haidd nodedig, a’r rhyg yn ei gyfle?

º26 Canys ei DDUW a’i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a’i dysg ef.

º27 Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn. men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys a ffon, a chwmin a gwialea.

º28 ŷd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac rfi ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mal ef a’i wŷr meirch.

º29 Hyn hefyd a ddaw oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.


PENNOD 29

º1 GWAE Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddii ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth..’

º2 Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel.

º3 A gwersyllaf yn grwn i’th erbyn, ac’a warchaeaf i’th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn.