Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/695

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

iawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd ARGLWYDD y lluoedd.

º14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Llafur yr Aifft, a marsiandiaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw.

º15 Ti yn ddiau wyt DDUW yn ymguddio, O DDUW Israel yr Achubwr!

º16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.

º17 Israel a achubir yn yr ARGLWYDD a iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth byth;oedd.

º18 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Creawdydd y nefoedd, y Diny ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth;; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid neb amgen. ‘

º19 Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer.-Myfi yr ARGLWYDD wyf yn llefara. cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.

º20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. ‘.

º21 M.ynegwch,anesewchhwynt;cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr ARGLWYDD? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn DDUW cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ondr myfi., ‘.’’

º22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys niyfi wyf DDUW, ac nid neb arall.

º23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac m ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod.

º24 Yn ddiau yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.

º25 Yn yr ARGLWYDD y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.


PENNOD 46

º1 CRYMODD Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod; ac ai anifeiliaid: eich dud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diflygiol.

º2 Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.

º3 tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru:

º4 Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, royfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd, ie, dygaf, a gwaredaf chwi.

º5 I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg?

º6 Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn dorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw; gostyngant, ac ymgrymant.

º7 Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd.

º8 Cofiwch hyn, a byddwch wŷr; atgofiwch, droseddwyr.

º9 Cofiwch y pethau gynt eriofid; canys myfi ydwyf DDUW, ac nid neb airall; Duw ydwyf, ac heb fy math;

º10 Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf:

º11 Yn galw aderyn o’r dwyrain,< y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.

º12 Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder:

º13 Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.