Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/792

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd-dra.

44 y Wele, pob diarhebydd a ddiar-heba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch.

45 Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a'i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a meiddiasant eu gwyr a'u meibion: eich mam oedd Hittees, a'ch tad yn Amoriad.

46 A'th chwaer hynaf yw Samaria, hi a'i merched yn trigo ar dy law aswy: a'th chwaer ieuangach na thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau, yw Sodom a'i merched.

47 Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd-dra hwynt y gwnaethost: megis petal hynny ychydig bach, ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd.

48 Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni wnaeth Sodom dy chwaer, na hi na'i merched, fel y gwnaethost ti a'th ferched.

49 Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom, Balchder, digonedd bara, ac amider o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a'r tlawd.

50 A hwy a ymddyrchafasant, ac a wnaethant ffieidd-dra o'm blaen i: am hynny y symudais hwynt, fel y gwelais yn dda.

51 Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a ami-heaist dy ffieidd-dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd-dra a wnaethost.

52 Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd.

53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt:

54 Fel y dygech dy warth, ac y'th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt.

55 Pan ddychwelo dy chwiorydd, So¬dom a'i merched, i'w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr.

56 Canys nid oedd mo'r son am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falch-der, »

57 Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a'r holl rai o'i harngylch, merched y Philistiaid, y rhai a'th ddiystyrant o bob parth.

58 Dy ysgelerder, a'th ffieidd-dra hefyd, ti a'u dygaist hwynt, medd yr ARGLWYDD.

59 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Felly y gwnaf a thi fel y gwnaeth¬ost, yr hon a ddiystyraist Iw, i ddiddymu'r cyfamod.

60 Eto mi a gofiaf fy nghyfamod a thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol.

61 Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hyn na thi, gyda'r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di.

62 A mi a sicrhaf fy nghyfamod a thi; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD:

63 Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy 'waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr AR¬GLWYDD DDUW.


PENNOD 17

1 AGAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2 Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dy Israel,

3 A dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden.

4 Torrodd frig ei blagur hi, ac a'i dug i dir marsiandiaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.