Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


PENNOD XI.

1 Cennadwriaeth Duw at yr Israeliaid i fenthyccio tlysau gan eu cymmydogion. 4 Moses yn bygwth Pharaoh â marwoldaeth y cyntafanedig.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un bla etto a ddygaf ar Pharaoh, ac ar yr Aipht; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.

2 Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthyccied pob gwr gan ei gymmydog, a phob gwraig gan ei chymmydoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.

3 A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr y’ngolwg yr Aiphtiaid: ac yr oedd Moses yn wr mawr iawn y’ngwlad yr Aipht, y’ngolwg gweision Pharaoh, ac y’ngolwg y bobl.

4 Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr âf fi allan i ganol yr Aipht.

5 A phob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.

6 A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aipht, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

7 Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddyn, nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.

8 A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.

9 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharaoh arnoch; fel yr amlhâer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aipht.

10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharaoh: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.


PENNOD XII.

1 Newidio dechreuad y flwyddyn. 3 Ordeinio y Pasc. 11 Defod y Pasc. 15 Bara croyw. 29 Marwolaeth y cyntaf-anedig. 31 Gyrru yr Israeliaid allan o’r tir. 37 Hwythau yn dyfod i Succoth. 43 Ordinhâd y Pasc.

Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aipht, gan ddywedyd,

2 Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

3 ¶ Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymmerant iddynt bob un oen, yn ol teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.

4 Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymmydog nesaf i’w dŷ a’i cymmer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.

5 Bydded yr oen gennych yn berffeith-gwbl, yn wrryw, ac yn llwdn biwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymmerwch ef.

6 A bydded y’nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef yn y cyfnos.

7 A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.

8 A’r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.

9 Na fwyttêwch o hono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyd â’i draed a’i ymysgaroedd.

10 Ac na weddillwch ddim o hono hyd y bore: a’r hyn fydd y’ngweddill o hono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

11 ¶ Ac fel hyn y bwyttêwch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylaw: bwyttêwch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.

12 O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd.

13 A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.

14 A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn wyl i’r Arglwydd trwy eich