Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/808

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12 A mi a wnafwiad yr Aifft yn anghyf¬annedd yng nghanol gwledydd anghyf-anheddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhed¬loedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13 Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt.

14 A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel.

15 Isaf fydd o'r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.

16 Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hoi hwythau: eithr cant wybod mat myfi yw yr Ar¬glwydd DDUW.

17 Ac yn y mis cyntaf o'r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18 Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddi-noethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:

19 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i'w luef.

20 Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd DDUW.

21 Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn ty Israel flaguro, a rhoddafi tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.


PENNOD 30

1 A GAIR yr ARGLWYBD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Udwch, Och o'r diwrnod!

3 Canys agos dydd, ie, agos dydd yr ARGLWYDD, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe.

4 A'r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.

5 Ethiopia, a Libya, a Lydia, a'u gwerin oil, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf.

6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dwr Syene, medd yr Arglwydd DDUW.

7 A hwy a wneir yn anghyfannedd ym hlith y gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.

8 A chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf dan yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.

9 Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Bab¬ilon.

11 Efe a'i bobl gydag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad a chelanedd.

12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, ,aigwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr ARGLWYDD a'i dywedodd.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noph;