Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/853

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.

8:14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.


PENNOD 9

9:1 Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dŷ DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.

9:2 Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi.

9:3 Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.

9:4 Nid offrymant win i’r ARGLWYDD, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb, a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr ARGLWYDD.

9:5 Beth a wnewch ar ddydd yr uchel.ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr ARGLWYDD?

9:6 Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.

9:7 Dyddiau i ymweled â ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr.

9:8 Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei DDUW.

9:9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod.

9:10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant.

9:11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi.

9:12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt!

9:13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.

9:14 Dyro iddynt, ARGLWYDD: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.

9:15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar.

9:16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau.

9:17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y bydd¬ant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.


PENNOD 10

10:1 Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg.

10:2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.

10:3 Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr ARGLWYDD; a pheth a wnâi brenin i ni?

10:4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.

10:5 Preswylwyr Samaria a ofnant oher¬wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.

10:6 Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd gan¬ddo ei gyngor ei hun.