Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/855

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd; yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.

12:6 Tro dithau at dŷ DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.

12:7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.

12:8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.

12:9 A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.

12:10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.

12:11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.

12:12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

12:13 A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff¬wyd y cadwyd ef.

12:14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.


PENNOD 13

13:1 Pan lefarodd Effraim â dychryn, ymddyrchafodd efe yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, y bu farw.

13:2 Ac yr awr hon ychwanegasant bechu, ac o’u harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eilunod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dywedyd, Y rhai a aberthant, cusanant y lloi.

13:3 Am hynny y byddant fel y bore-gwmwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn fore, fel mân us a chwaler gan gorwynt allan o’r llawr dyrnu, ac fel mwg o’r ffumer.

13:4 Eto myfi yw yr ARGLWYDD dŷ DDUW, a’th ddug di o dir yr Aifft; ac ni chei gydnabod Duw ond myfi: ac nid oes Iachawdwr ond myfi.

13:5 Mi a’th adnabûm yn y diffeithwch, yn nhir sychder mawr.

13:6 Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala: cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau; ac anghofiasant fi.

13:7 Ond mi a fyddaf fel llew iddynt; megis llewpard ar y ffordd y disgwyliaf hwynt.

13:8 Cyfarfyddaf hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt

13:9 O Israel, tydi a’th ddinistriaist dy hun; ond ynof fi y mae dy gymorth.

13:10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a’th frawdwyr, am y rhai y dywedaist, Dyro i mi frenin a thywysogion?

13:11 Rhoddais i ti frenin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy llid.

13:12 Rhwymwyd anwiredd Effraim; cuddiwyd ei bechod ef.

13:13 Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab angall yw efe; canys ni ddylasai fe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant.

13:14 O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.

13:15 Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.

13:16 Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.


PENNOD 14

14:1 Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dŷ DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

14:2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau.

14:3 Ni all Assur ein hachub ni;