a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.
3:17 A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu.
3:18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho DDUW a'r hwn nis gwasanaetho ef.
PENNOD 4
4:1 Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
4:2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddyginiaeth yn ei esgyll, a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.
4:3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion, canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4:4 Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a'r barnedieaethau.
4:5 Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD:
4:6 Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith.
Terfyn y Prophwydi.