Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/900

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6:1 Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

6:2 Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

6:3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau;

6:4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.

6:5 ¶ A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac yng nghonglau’r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

6:6 Ond tydi, pan weddïech, dos i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

6:7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.

6:8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau, cyn gofyn ohonoch ganddo.

6:9 Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.

6:10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

6:11 Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.

6:12 A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.

6:13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

6:14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau:

6:15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.

6:16 ¶ Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

6:17 Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben, a golch dy wyneb;

6:18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

6:19 ¶ Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata;

6:20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratant.

6:21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

6:22 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau.

6:23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!

6:24 ¶ Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.

6:25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn fwy na’r dillad?

6:26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

6:27 A phwy ohonoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

6:28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:

6:29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn.