Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/903

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef.

8:24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.

8:25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.

8:26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr.

8:27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!

8:28 ¶ Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

8:29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu. Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser?

8:30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.

8:31 A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch.

8:32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

8:33 A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig.

8:34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.


PENNOD 9

9:1 Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun.

9:2 Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys. Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.

9:3 Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.

9:4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

9:5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

9:6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ.

9:7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun.

9:8 A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddymon.

9:9 ¶ Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef.

9:10 ¶ A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion.

9:11 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid?

9:12 A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion.

9:13 Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

9:14 ¶ Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

9:15 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.