Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/915

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

17:10 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf?

17:11 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth.

17:12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.

17:13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

17:14 ¶ Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

17:15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

17:16 Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef.

17:17 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth annyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi.

17:18 A’r Iesu a geryddodd y cythraul, ac efe a aeth allan ohono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno.

17:19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

17:20 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac etc a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.

17:21 Eithr nid â’r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

17:22 ¶ Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion:

17:23 A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

17:24 ¶ Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged?

17:25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?

17:26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae’r plant yn rhyddion.

17:27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi â thithau.


PENNOD 18

18:1 Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

18:2 A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt;

18:3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

18:4 Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

18:5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.

18:6 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.

18:7 ¶ Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn