hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.
24:34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
24:35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
24:36 ¶ Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.
24:37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
24:38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch,
24:39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
24:40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir.
24:41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.
24:42 ¶ Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
24:43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
24:44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
24:45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
24:46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
24:47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.
24:48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;
24:49 A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon;
24:50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;
24:51 Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
PENNOD 25
25:1 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab.
25:2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl.
25:3 Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt:
25:4 A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau.
25:5 A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant.
25:6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef.
25:7 Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau.
25:8 A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi.
25:9 A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
25:10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab, a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws.
25:11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
25:12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.
25:13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn,
25:14 ¶ Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt.
25:15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.
25:16 A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill.
25:17 A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill.