Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/940

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.

6:30 ¶ A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent.

6:31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta.

6:32 A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu.

6:33 A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef.

6:34 A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau.

6:35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd:

6:36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta.

6:37 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta?

6:38 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant. Pump, a dau bysgodyn.

6:39 Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt.

6:40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau.

6:41 Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.

6:42 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.

6:43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod.

6:44 A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.

6:45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl.

6:46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo;

6:47 ¶ A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir.

6:48 Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt.

6:49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.

6:50 (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch.

6:51 Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.

6:52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

6:53 Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant.

6:54 Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong, hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd.

6:55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef.

6:56 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.