nynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
16:9 ¶ A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y twriasai efe allan saith o gythreuliaid.
16:10 Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.
16:11 A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
16:12 ¶ Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad.
16:13 A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
16:14 ¶ Ac ar ôl hynny efe a ymddangosadd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calongaledwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi.
16:15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
16:16 Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.
16:17 A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant;
16:18 Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
16:19 ¶ Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
16:20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
YR EFENGYL YN OL SANT LUC
PENNOD 1
1 YN gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi-amau yn ein plith,
2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:
3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus,
4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5 R osdd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.
6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyflawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd.
7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn arnhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,
9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.
10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.
11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.
12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a eiwi ei enw ef Ioan.
14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.