Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/981

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13 Eithr pan wnelych wledd, galw’r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.

16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahodd¬odd lawer:

17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.

18 A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho. Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

19 Ac arall a ddywedodd. Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol.

20 Ac arall a ddywedodd. Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. ,

21 A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, DOS allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion.

22 A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gynaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle.

23 A’r arglwydd a ddywedoau . gwas, DOS allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.

25 A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,

26 Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, ie, a’i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

27 A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

28 Canys pwy ohonoch chwi â’i fryd i ar adeiladu twr, nid eistedd yn gyntaf, a i bwrw’r draul, a oes ganddo a’i gorffenno?

29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orffen, ddechrau o bawb a’i gwelant ei waiwar ef,

30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orffen.

31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe a deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil?

32 Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.

33 Felly hefyd, pob un ohonoch chwi¬thau nid ymwrthodo S chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.

34 Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, S pha beth yr helltir ef?

35 Nid yw efe gymwys nac i’r tir, nac i’r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.


PENNOD 15

1 AC yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesâu atto ef, i wrando arno.

2 A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.

3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddysedyd,

4 Pa ddyn oifflA y chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5 Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd la ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

6 A phan ddêl adref, efe a eilw