mysg. Bydded i ni oll fod yn un. O, yr wyf yn ofni dadleuon, ynghyd a'u canlyniadau i'r cywion (dychweledigion) ieuainc. Yr wyf yn dy glodfori am gynifer o rai ffyddlon. Ti wyddost, O Arglwydd, mor anghymwys wyf i fyned i'r cyhoedd: mor fach yw yr amser sydd genyf i ddarllen; ac mor ychydig o allu sydd genyf i dreulio ac i ddal. O, mi a hoffwn fod yn ddiwyd, ond gan na fedraf, yr wyf yn cyflwyno fy hun i ti; goleua di íì, ac arwain fi i bob gwirionedd. Bydded i mi gael rhagor o oleuni ar dy Air, Os ydwyf yn un o dy blant, bydded i mi deimlo mwy o ddyddordeb yn dy achos; yna mi a allwn dy glodfori yn dragywydd. Cynorthwya fi heddyw i fod yn hyf drosot ti, a gwared fi rhag yr anghenfil hwn, hunan.' "
Dydd Llun y mae yn gadael Trefeurig, ac yn croesi y mynydd heibio Tonyrefail, gan gyrhaedd Cymmer, yn Nghwm Rhondda, tua chanol dydd.
"Cymmer. Llefaru ar y ffordd. Ond fflachiadau yw y cwbl sydd yn perthyn i mi; nid yw yn tarddu oddiar gariad. Yr wyf yn gweled hunan o hyd yn chwerthin o herwydd gwendidau fy nghyd greaduriaid. O, beth wyf fi, fel y cawn fod yn yr un byd a saint Duw? Ond os gwneir fi rywbryd yn rhywbeth dros Grist, bydd er gogoniant tragywyddol rhad gariad. Ar y ffordd, clywed am un o'r Methodistiaid, cadben ar y môr, yn cynghori y milwyr. Llanwyd fy enaid a llawenydd am oriau o'r herwydd. Cefais hiraeth dwfn ac wylo yn fy enaid am Yspryd Duw. O na chawn dy Yspryd, Arglwydd; onide beth a wnaf a dy seiadau di? Yn Cymmer gwedi un, dechreu (trwy ddweyd) Ai nid yw dynion mewn carchar yn llawen wrth glywed am un i'w rhyddhau? A'r claf, wrth glywed am physygwr? Ond yr ydym ni yn farw, yn farw mewn pechod. Cymell i ymgadw rhag dawnsio a phob chwareuyddiaethau. Crist yn dwyn pechaduriaid ato ei hun trwy argyhoeddiad. Y gair (wrth argyhoeddi) yn gyffelyb i dân, i ordd, i oleuni, i gleddyf, ac i sebon. Cyfeirio at yr Iddewon yn cael eu dwysbigo, ac at Nebuchodonosor. Nodau argyhoeddiad ydynt, golchiad y galon, tynu y galon oddiwrth bob peth ato ef, ein tynu i beidio ymddiried ynom ein hunain. Cael peth hyfrydwch a phleser yn y gwaith; rhyw gymaint o gariad at yr eneidiau, a thosturi atynt; ynghyd a hiraeth am Dduw. Rhoddodd Duw i ni hin hyfryd heddyw. Gwedi hyn argyhoeddwyd fi gan Mr. Henry Davies o fy anniolchgarwch i'r Arglwydd am yr help yr oedd yn roi, a'm bod o'r herwydd yn fforffetio'r cwbl; ac o'r ychydig gariad sydd yn fy enaid."
Boreu dydd Mawrth, Ionawr 11, y mae yn llefaru yn Cymmer drachefn, yn teithio rhyw bedair milldir ar hyd Cwm Rhondda, nes cyrhaedd Ynysyngharad, ger Pontypridd. Dydd Mercher, lonawr 12, cawn ef wedi croesi y mynydd ar ei draws, ac yn y Parc, plwyf Eglwysilan; a phrydnhawn yr un dydd mewn lle o'r enw Tynycoed. Rhaid difynu rhan o'i ddydd-lyfr yma eto: "Cawsom dynerwch hyfryd, ac yspryd cariad at y bobl ieuainc; ac yr wyf yn gobeithio ddarfod cael rhai o honynt i Grist. Gwedi un, lleferais hyd o gwmpas pedwar. Cawsom heddyw eto yr hin yn hyfryd; nid yn aml y ceir y fath dywydd yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr wyf yn gobeithio fod Duw gyda ni. Rhoddwyd i mi beth a ddywedwn; nid oeddwn wedi ei ragfeddwl, gan y bwriadwn lefaru ar fater arall. Gwedi hyny, myned tua Llanbradach Fach, ac ar y ffordd cael ymosod arnaf gan Fedyddiwr, yr hwn a geisiai bigo cweryl a mi. Teimlais oddimewn i mi wrthnaws at y ddadleuaeth, oblegyd ofn y canlyniadau. Nis gallaf ddweyd beth sydd yn peri fy mod yn cael fy yspryd yn fwy yn erbyn y rhai hyn na neb, oddigerth y Pabyddion. Yr wyf yn ofni fod penboethiaid yn eu mysg, y rhai, os na wel Duw yn dda eu darostwng, a wnant niwed i eglwys Crist. Ond yr wyf yn hwyrfrydig i gymeryd i fynu y pastwn yn eu herbyn; nid rhag ofn y ddadl, oblegyd yr wyf yn glir ar y mater, eithr rhag tynu i lawr waith hyfryd y diwygiad. Yr wyf yn gweled nodau y rhagrithiwr yn amlwg ar y penboethiaid yma. Yn un peth, y mae holl gyfeiriad eu hymddiddan tuag at hyn (bedydd), a dim ond ychydig am Grist. Yn ail, y mae eu cariad gwresog yn gyfyngedig i'r rhai o'r un opiniwn a hwy eu hunain; ond eiddo y dyn duwiol at holl aelodau eglwys Crist. Yn drydydd, y mae eu holl awyddfryd yn amlwg am wneyd proselytiaid iddynt eu hunain, ac awyddfryd y duwiol am ddwyn dychweledigion at Grist, O 7 hyd 11, noswaith anghyffredin o hyfryd; ni welais un mor hyfryd; o leiaf yr un yn fwy. Rhoddwyd i mi (yr hyn a ddywedwn); ond ni phrofais ddigon yn fy yspryd. Argoelion dymunol heno.
Llanbradach Fach, Dydd lau (Ionawr 13). Dihuno yn foreu, a chodi am