Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mha leoedd y bu yn efengylu; ond cyfeiria at yr amgylchiad mewn llythyr " at chwaer yn Sir Fynwy." Dyddiad y llythyr yw Tachwedd 30, 1739. Dywed: "Yr wyf yn awr ar fy ffordd i Sir Benfro; collais y ffordd ar y mynyddoedd neithiwr, ond yr Arglwydd a gofiodd ei gyfamod." Nid ydym yn tybio iddo aros yn hir yma y tro hwn. Nid oes pen draw ar ei deithiau yr adeg hon. Cawn ef yng ngodre Sir Aberteifi, yng nghymdogaeth Penmorfa; teithia oddi yno i Lanarth, ac i Lanbedr; croesa y Mynydd Mawr, a phregetha mewn amaethdy bychan ynghanol y brwyn, o'r enw Brynare, yn agos i darddiad yr afon Towi. Cyn pen wythnos yr ydym yn ei gael yn nhref Henffordd, ac yn myned oddi yno i Gaerloyw, trwy rannau o Sir Fynwy. Rhaid bod ei gyfansoddiad fel haearn, a'i zêl yn angerddol.

Dechrau y flwyddyn 1740 y mae yn cychwyn ar ei ymweliad cyntaf a'r Gogledd. Rhydd yr Hybarch John Evans, o'r Bala, yr amser yn 1739; dywed Methodistiaid Cymru fod dyddlyfr Howell Harris yn cytuno a hyn; eithr y mae y ddau yn camgymryd. Y mae y dyddlyfr, ynghyd a'r holl lythyrau a ysgrifennodd Mr. Harris ar ei daith, at Mrs. James, o'r Fenni, a Miss Anne Williams, o'r Scrin, ac eraill, yn profi mai Chwefror, 1740, y cymerodd hyn le. Hawdd esbonio y modd y darfu iddynt gamsynied. Dilynai Howell Harris wrth ysgrifennu yr hen galendr eglwysig; o Ionawr hyd Mawrth 25, rhoddai, wrth ddyddio ei lythyrau, yr hen flwyddyn a'r flwyddyn newydd; ac y mae y llythyr o Lanfair-muallt, y cyntaf iddo ar y daith hon, felly, sef "Builth, Feb. 1, 1839-40." Elai ar wahoddiad Mr. Lewis Rees, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanbrynmair, yr hwn a ddaethai dros y mynyddoedd cribog yn un swydd i'w gyrchu. Gan mai Mr. Lewis Rees a fu yn foddion i ddwyn Methodistiaeth i ogledd Cymru, nid anniddorol fyddai ychydig o'i hanes. Ganwyd ef yn Glynllwydrew, Cwm Nedd, yn Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1710, ac felly yr oedd rai blwyddau yn hŷn na Rowland a Harris. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn yr Eglwys Ymneillduol yn Blaengwrach, yr hon oedd dan ofal y duwiol a'r diragfarn Henry Davies. Ymunodd a chrefydd yn ieuanc. Darfu i'w allu meddyliol, ynghyd a'i dalentau, yn arbennig ei ddawn mewn gweddi, beri i'w rieni ei godi i fynnu ar gyfer y weinidogaeth. Cafodd fanteision addysg helaeth; bu yn yr ysgol gyda Joseph Simons, yr hwn a gadwai ysgol ramadegol yn Abertawe, gyda Mr. Rees Price yn Penybont-ar-Ogwy, ac yn ddiweddaf gyda y Parch. Vavasor Griffiths, yn Sir Faesyfed. Dywedodd yr olaf ei fod yn llawn ddigon o ysgolhaig, ac anogodd ef i ymgymeryd a gweinidogaeth yr efengyl yn ddioedi. Y pryd hwn daeth y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl, heibio, gwedi bod ar daith yn y Gogledd; darluniodd gyflwr gresynus y rhan honno o'r wlad, ac anogodd ef i ymgymeryd a bugeiliaeth y ddeadell fechan yn Llanbrynmair, gan addaw troi yn ôl gydag ef, a'i gyflwyno i'r bobl. Cyn cyrraedd pen eu taith collasant y ffordd, a buont am rai oriau yn crwydro mewn lle a elwir Coedfron. Yn y sefyllfa annymunol hon ymroesant i ymddiddan a'u gilydd am bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a gawsant; terfynodd eu dyryswch hefyd yn annisgwyliadwy, gan iddynt gael gafael ar Lanbrynmair tua dau o'r gloch yn y boreu. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1734, tua blwyddyn cyn dechreuad y diwygiad Methodistaidd, a thua chwe' mlynedd cyn taith gyntaf Howell Harris i Wynedd. Yr adeg hon yr oedd cyflwr ysprydol Gogledd Cymru yn dra gresynus. Mewn ychydig fannau yn unig y pregethid yr efengyl yn ei phurdeb. Dihoenai yr eglwys fechan yn Llanbrynmair; ychydig iawn oedd rhif y ffyddloniaid yn y Bala, lle yr oedd achos wedi cael ei blannu gan y Parch. Hugh Owen, Bronyclydwr; ac yr oedd y ddeadell yn Pwllheli ar roddi i fynnu mewn digalondid. Ymroddodd Mr. Rees i bregethu; elai i Bwllheli mor aml ag y medrai, ac i'r Bala unwaith y chwarter. Gwnâi hyn drwy anhawster a pherygl dirfawr.[1] Yr oedd y ffordd yn faith, mynyddig, ac anhygyrch; y tywydd yn aml yn oer, ac yn ystormus; a phreswylwyr Dinas a Llanymawddwy, y pentrefydd, oedd ar ei ffordd, yn ffyrnig am ei ladd, gwedi ddeall ei neges. [2] Pan yn pregethu yn y Bala un tro digwyddodd i Meurig Dafydd, o ben uchaf plwyf Llanuwchllyn, fod yn gwrando. Wedi cael blas ar yr odfa, gwahoddodd Mr. Rees i bregethu i'w dŷ ef. Yntau a aeth fel yr addawsai. Yr oedd y tŷ yn llawn; daethai y bobl yno o chwilfrydedd i glywed Pengrwn yn pregethu; ond yn ol defod y wlad yr amser

  1. Methodistiaeth Cymru, cyf. i.
  2. History of Protestant Nonconformitiy in Wales, tudal. 415.