flaen tafarndy, a elwir yn awr y Wynnstay Arms, y llefarai. Yr oedd son am dano wedi myned ar led y gymydogaeth fel un a welsai weledigaeth, yr hwn a ai o amgylch i fynegu yr hyn a welsai ac a glywsai. Yn mhlith eraill a ddaethant i'w wrando yno yr oedd tri o frodyr, sef William, Edward, a Richard Howell, ynghyd a gŵr arall o'r enw Richard Humphrey. Er mwyn bod yn gyfleus i wrando aethant i ben tŷ bychan gerllaw. Dechreuodd gŵr Duw bregethu, a nodi beiau yr oes, yn ei ddull llym a phriodol ei hun. Tybiasant hwythau fod y pregethwr yn gwybod am danynt, ac yn eu pwyntio allan. Bu gorfod arnynt, gan rym cydwybod, ddisgyn oddiar ben y tŷ, fel Zaccheus o'r sycamorwydden, a saeth argyhoeddiad a drywanodd y pedwar gŵr. Dyma ddechreuad Methodistiaeth yn Llanbrynmair. Wedi dweyd ei fod yn oedi ymweled a Sir Benfro, am y credai fod gan Dduw waith iddo yn Ngwynedd, â Harris yn mlaen yn ei lythyrau: —
"SIR Feirionydd, ger y Bala, Dydd Mawrth (Chwefror 12, 1740). Y ddoe, anrhydeddwyd fi gan Dduw trwy gael fy nghymeryd yn garcharor yn ei waith, yn mhlwyf Cemmes, yn Sir Drefaldwyn. Gwnaed hyn gan un Wynne, ustus, yr hwn, gydag ustus arall, a boneddwr arall, ynghyd ag offeiriad y plwyf, a ddaeth arnom, wedi anfon eu hysbiwyr, ynghyd a'r cwnstabl, o'u blaen. Ni chefais yr anrhydedd o fyned i Drefaldwyn mewn llyfetheiriau; ond cymerasant ein henwau, ynghyd a'r manylion perthynol i'r cyfarfod, a'n bod yn ymgynull mewn lle heb ei drwyddedu; a bygythient wneyd eu goreu i'm dirwyo i o ugain punt, gŵr y tŷ o ugain punt, a phob un o'r gwrandawyr o bum' swllt yr un. Achwynent fy mod yn tori deddf y tŷ cwrdd (Convcnticle act). Atebais nas gellid fy nghospi yn unol a'r ddeddf hono; mai deddf ar gyfer yr Anghydffurfwyr ydoedd, tra yr oeddwn i yn gydffurfiwr a'r Eglwys Sefydledig. Ni a fynwn ymgynghori a'r cyfreithwyr goreu, meddent, ac os oes cyfraith i'w chael, cewch ddyoddef ei llymder eithaf.' Dywedais yn ol, os oedd y gyfraith yn fy erbyn, fy mod yn foddlawn dyoddef pa gospedigaeth bynag a farnent yn addas ei gosod arnaf. Llanwodd yr Arglwydd fi a gwroldeb; ni chefais fy ngadael. Llawer o ddagrau a gollwyd gan y gynulleidfa; ac yr oedd nifer wedi arfaethu dod gyda mi i Drefaldwyn pe buasai raid. Dychwelais gyda rhai dwsynau oeddynt wedi dyfod gyda mi, i'r lle o ba un y cawswn fy nghymeryd, a llefarais wrthynt am sefyll yn nydd yr ystorm. Cychwynais tua'r lle hwn, taith o tua deuddeg milltir, a llefarais ddwy waith ar y ffordd. Wedi teithio encyd, disgynais, ac aethum i fwthyn bychan ar ochr y ffordd, lle yr ysgrifenais hwn. Gwelais yno, mewn hen wraig, gariad at Air Duw ac at ei Fab, a mawr uniondeb meddwl, a gofal tyner. Y mae arnaf ofn dilyn fy ewyllys fy hun mewn dim, llawenheir fi wrth feddwl mai gwas i Un arall wyf, ac y mae heddwch mawr mewn ymostwng i Dduw yn mhob peth. Teimlais fy nghalon yn cynhesu at yr hen wraig—dywedodd y daw Duw'n nes atom ninau os awn ni yn nes ato ef. Yr oedd yn ddiolchgar iawn, yr oedd yn gweled ei hun yn bechod i gyd, yr oedd ganddi gariad cryf at Grist, teimlwn fy nghalon yn agor iddi o gariad at yr Iesu. Yr oedd yn fwy o ddyddanwch i mi gael bod yn ei thŷ na phe buaswn mewn palas. Bwyteais ychydig fara ceirch tew caled a chaws, ac yna aethum yn fy mlaen ar y ffordd tua thŷ Meurig Dafydd, Gweirglodd Gilfach.
Fel yr oeddwn yn myned o'r bwthyn tua Llanymowddwy, gwawdiwyd fi; rhedai plant ac eraill ar fy ol, gan waeddi, Down with the Rumps, a phethau eraill. Yr oedd Satan yn rhuo, ac yn chwerw iawn. Ni theimlais unrhyw derfysg yn fy enaid, eithr gweddïais drostynt, a thosturiwn wrthynt,—er nad cymaint ag yr hoffwn wneyd. Ac nis gallwn gael fy hun yn ol i'r ystad meddwl hyfryd yr oeddwn ynddi cyn hyny.
Pan aethum yn agos at yr eglwys, daeth tyrfa o bobl mewn oed a bechgyn at eu gilydd; pan welsant fi yn dod, gwaeddasant: Down with the Rumps, a chasglasant y cŵn at eu gilydd i'w hysio arnaf. Pan welais hwynt, teimlais fy ewyllys yn hollol ymroddedig—felly hefyd yr wyf wedi ei theimlo ar hyd y ffordd—cefais galondid mawr i fyned yn mlaen, siaredais heb ofn, a chefais ryddid meddwl. A gofynodd dynes i mi—galwent hi yn wraig fonheddig — beth oedd arnaf fi, dd----l coll, eisiau yno. A chyda hyny, cymerodd laid a thywarchen—nid oedd cerrig yn ei hymyl wrth lwc—a thaflodd hwynt ataf. Gwelais ei bod yn un o ddilynwyr Satan, ond ni dderbyniais niwed.
Gwaeddasant ar fy ol wedi fy myned, ond tra yr oeddwn yn pasio cauodd yr Arglwydd eu safnau.
Ar ol hyn deuais at eglwys Llanuwchllyn.