Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynghylch y brodyr blaenaf gyda'r diwygiad, a'r angenrheidrwydd am eu dwyn i ryw drefn. Gwel fod y gwaith da yn myned yn mlaen yn hyfryd. Cyn myned i'w wely, trefnodd ei deithiau, ac yr oedd yn bedwar cyn iddo fyned i orphwys.

Dydd Llun, cychwyna dros y Mynyddbach, a chyrhaedda Landdewi Aberarth, ar lan y môr. Cafodd nerth mawr yma i gynghori gyda golwg ar ddwyn ffrwyth, ac i lefaru yn erbyn balchder, a diogi; yna efengylodd i'r rhai oedd wedi eu clwyfo. Dydd Mawrth ni a'i cawn mewn lle o'r enw Gwndwn, ger Llangranog, ar lan culfor Aberteifi. Testun ei bregeth yno oedd: "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol." Cafodd odfa rymus; dyrchafwyd ei lais fel udgorn; a dywed ei fod yn nodedig o nerthol wrth wahodd at Grist.

GOLWG FEWNOL AR Y CAPEL COFFADWRIAETHOL

Wedi hyny ysgrifenodd at y cynghorwr blaenaf, ac yr oedd yn llawn o zêl wrth wneyd, gan ddangos iddynt y modd yr oedd y gwaith yn myned yn y blaen dros y byd, a'u hanog i zêl, bywyd, a thân. Yna, wedi canu a gweddïo, eisteddwyd wrth y bwrdd; ond wedi swpera, llefarai Harris drachefn wrth y teulu, gan eu hanog i