rywbeth ar gam, i alw ei eiriau yn ol, neu i'w hesbonio, ac yna aeth at yr Iesu i geisio doethineb. Cafodd hyfrydwch mawr yn y weddi deuluaidd, a gwnaed ef yn ddifrifol iawn wrth weddïo dros yr hen bobl yn neillduol. Bu yn ysgrifenu yn ei ddyddlyfr hyd o gwmpas deuddeg. Yna dywed fod yr helynt hono y cyfeiriasai ati yn ddrain yn ei ystlys o hyd; pe buasai wedi cael ei goddef i ddigwydd, nas gallasai ddal, y suddasai tani. Cawsai ei synu yn hapus at lefau tair merch ieuanc yn y cyfarfod, y rhai a gydweddïent gerbron yr orsedd. " Mor hyfryd yw calonau toredig," medd, " yn neillduol rhai ieuainc; mor ardderchog yw yr olygfa; dim ysgafnder, na dadleuaeth, na siarad; ond ar eu gliniau yn pledio eu trueni yn ddifrifol gerbron Iesu, Cyfaill pechaduriaid. Ni chlywais fiwsig mor felus erioed; yr oeddynt fel colomenod yn trydar."
Dydd Llun y mae mewn lle a eilw yn Treinar; yr oedd sefyllfa Eglwys Loegr yn gwasgu yn ddwys ar ei feddwl; bu yn wylo, yn galaru, ac yn dadleu ar ei rhan. Erbyn deuddeg, yr oedd yn Castellnewydd bach, a phregethodd hyd gwedi dau ar, "Gan edrych ar Iesu." Ar y dechreu yr oedd yn sych; ond yn raddol cafodd ryddhad, a thynwyd ef allan mewn mawr gariad. Priodola ei sychder yn y rhan gyntaf i falchder ei galon, o herwydd pa un y gorfodir Duw i'w gaethiwo, er ei gadw yn ostyngedig. Cafodd hyfrydwch a goleuni mawr; dangosodd hefyd os oedd tywyllwch yn Eglwys Loegr, fod marweidd-dra yn mysg yr Annibynwyr; "felly," medd, "bydded i ni alaru ynghyd, a pheidio gadael y naill na'r llall, na gwanhau dwylaw ein gilydd; nid yw Yspryd Crist yn dymuno am ddinystr nac enwad na dynion, ond ar i'r holl eglwysi gael eu llanw o Dduw." Aeth oddi yno tua Fishgate, pum' milldir o bellder; yr oedd yn hyfryd arno ar y ffordd, ac eto nid oedd mor agos at ei Waredwr ag y dymunai. Er ei bod yn nghanol Rhagfyr, dywed y rhaid iddo bregethu allan yn mhob man, gan lluosoced y cynulleidfaoedd. Cafodd hyfrydwch wrth weddïo, a llefarodd oddiar: "Canys byw i mi yw Crist." Yr oedd yn sych yma eto ar y cychwyn, ond dychwelodd ei Arglwydd ato heb fod yn hir. Cafodd gryn nerth i gymell at Grist. Yna aeth i seiat, lle yr oedd llonaid ystafell wedi ymgynull; cafodd nerth yma eto, gobeithia, i'w gosod ar dân; dywed wrthynt mai tân yw eu prif angen. Cyfeiria at yr Eglwys ac Ymneillduaeth fel yn farw. Cynghora hwy i oddef pawb sydd a'u hysprydoedd wedi eu tanio; ac eto nid oes neb i gael eu cefnogi i gynghori ond y rhai y mae Duw yn bendithio eu geiriau er bywiocau.
Dydd Mawrth, y mae yn Abergwaun. Yr oedd yr Arglwydd yn agos iawn ato yn ei ystafell wely. Teimlai anwyldeb mawr at ei gydymaith; edrychai arno fel wedi cael ei roddi iddo gan Dduw; a gweddïai drosto: "O Arglwydd, dy was di ydyw; rho iddo bob doethineb, pob zêl, pob gostyngeiddrwydd, a phob nerth ffydd, i ogoneddu dy enw. Yr wyt yn canfod mai er mwyn dy ogoniant yr oeddwn yn dymuno ei gael."Yna cafodd ddifrifwch mawr wrth weddïo tros yr ŵyn, yn arbenig y rhai a roddasai Duw iddo ef; teimlai y fath anwyldeb atynt fel na wyddai sut i'w gadael; synai fod y Goruchel a'r Dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragywyddoldeb, yn gwneyd defnydd o hono ef, a darostyngwyd ef i'r llwch o'r herwydd. Gofynai am i'r Arglwydd fendithio ei lafur, a llafur yr holl frodyr, a dymunai na fyddai unrhyw ymraniad rhyngddynt. Ymddengys ei fod wedi clywed fod annhueddrwydd yn yr offeiriaid i oddef i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwysydd; a gweddïa yntau drostynt, os na chawsent eu galw i bregethu, ar iddynt gael eu cadw rhag gwrthwynebu, a goddef y bobl i ddyfod i'r ordinhad. Pregethodd oddiar Col. i. 12, 13. Ar y cyfan teimlai hyfrydwch yn y gwaith. Aeth oddi yno i Long House, ger Trefin. Llefarodd oddi ar Actau ii. 4: "A hwy oll a lanwyd a'r Yspryd Glân; " cafodd oleuni, hyfrydwch, a nerth mawr. Dydd Mercher y mae yn myned i Dyddewi; llefara hyd gwedi tri, a theimla dosturi diderfyn yn llanw ei yspryd wrth edrych ar y gynulleidfa. Wrth weddïo cafodd ryddid mawr; ac yr oedd nerth rhyfedd yn cydfyned a'r weinidogaeth. Pregetha yn yr hwyr drachefn; rhybuddia y bobl i beidio rhoddi mwy o bwys ar fedydd nag ar waed Crist; a chafodd fwy o flas wrth sôn am y clwyfau nag erioed. Dydd Iau y mae yn Wolf's Castle; ac yn Hwlffordd dydd Gwener. Aeth i eglwys Prendergast yn y boreu; bu yno mewn seiat breifat hyd ddeuddeg; yna pregethodd gyda nerth anarferol hyd oedd yn agos i ddau. Aeth oddi yno tua lle a eilw yn Fenton; yno yr oedd mewn caethiwed ar y dechreu, ac yn galed arno mewn gweddi; ond yn y diwedd cafodd ryddhad wrth bregethu. Aeth yn ei flaen i St.