Walton, y plwyf agosaf at Llysyfran, yn y flwyddyn 1747, ac y mae sail i gasglu mai efe oedd olynydd Howell Davies yn nghuwradiaeth Llysyfran. Cawn ferch i'r ficer hwn, o'r enw Mrs. Scourfield, yr hon a breswyliai yn Pwllhook, yn perthyn i'r Methodistiaid yn amser y Parch. David Jones, Llangan. Y mae sail i gredu fod Howell Harris a Daniel Rowland, yn gystal a Howell Davies, yn ymweled a'r Parke yn fynych ar eu teithiau; a'r tebygolrwydd yw fod Catherine wedi cyfranogi yn helaeth o yspryd y diwygiad. Cyn ei phriodas yr oedd ei thaid a'i nain wedi marw; felly, perchenogai hi yr etifeddiaeth a adawsid ganddynt; ac yn rhinwedd yr undeb hwn daeth Howell Davies ar unwaith yn ŵr o gyfoeth. Eithr ni fu golud yn achlysur iddo laesu dwylaw gyda'r efengyl; llafuriai gyda'r un awyddfryd ac ymroddiad ag o'r blaen, a diameu iddo gael pob cefnogaeth i hyn gan ei briod. Nid hir, pa fodd bynag, y parhaodd pethau yn ddysglaer yn y Parke; daeth angau i mewn i'r palasdy tlws, gan gymeryd ymaith ddymuniad llygaid Mr. Davies. Bu farw ar enedigaeth baban, ei chyntaf-anedig; a chyn i'r eneth fechan gyrhaedd dwy flwydd oed, cafodd hithau ei rhifo i'r bedd, a gadawyd Howell Davies wrtho ei hun.
Yn mhen amser, priododd drachefn a Miss Luce Phillips, merch Mr. Hugh Phillips, boneddwr cyfoethog o'r un ardal; a chan i'r gweddill o blant Hugh Phillips farw heb hiliogaeth, daeth yr holl eiddo yn feddiant i Mr. Davies. Yr oedd hi yn ddynes nodedig o brydweddol, ac heblaw bod yn enwog am ei doethineb a'i chrefydd, yr oedd yn gantores dda. Meddai Mr. Davies, hefyd, ddawn canu rhagorol, a cheir y dalent yn nheulu y Parke hyd y dydd hwn. Mewn canlyniad i'r briodas hon daeth Howell Davies yn berchen dau gartref, sef y Parke, a thŷ ei wraig yn Prengast; preswyliai yn y ddau fel y byddai cyfleustra yn rhoi. Nid dibrofedigaeth a fu ei yrfa er hyny; bu farw ei unig fab, Howell, yn y flwyddyn 1749, ac efe yn saith mis oed. Ond ganwyd iddo ferch, sef Margaret, yr hon wedi hyny a ddaeth yn wraig i'r Parch. Nathaniel Rowland; ac y mae eu hiliogaeth hwy yn preswylio yn y Parke hyd y dydd heddyw.
Parhau i lafurio a wnaeth Howell Davies, a pharhaodd y nefoedd i fendithio ei waith. Ymledodd y diwygiad trwy Sir Benfro oll, yn arbenig yn y canolbarth, ac yn nhref Hwlffordd. Tua 1748, symudodd i ddarpar lle i'r ddeadell yn Hwlffordd i addoli, a galwyd yr adeilad yn "Ystafell y Tabernacl," gan ganlyn Whitefield, yr hwn oedd wedi galw ei babell ef yn y Moorfields, Llundain, yn "Tabarnacl." Yn cynorthwyo Howell Davies gyda hyn yr oedd y cynghorwr John Sparks, at ba un y cyfeirir yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llangwm. Cawsai John Sparks ei eni yn y flwyddyn 1726; brodor o Hwlffordd ydoedd; profodd argyhoeddiad dwfn pan yn ieuanc, a chedwid gwasanaeth crefyddol yn nhŷ ei rieni, yn yr hwn y cymerai ef ran. Yr oedd yn bregethwr da, ac yn ddiamheuol dduwiol. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, glynodd John Sparks wrth y diweddaf. DarIlenwn am dano droiau yn pregethu yn Nghymdeithasfaoedd plaid Harris, a dywedir ei fod yn llefaru gydag arddeliad anghyffredin. Ond yn 1751, gadawodd y Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Forafaidd. Yr oedd achos crefyddol cryf wedi cael ei sefydlu hefyd yn Woodstock, trwy offerynoliaeth Howell Davies; adeiladwyd capel yma yn y flwyddyn 1754, agorwyd ef yn y flwyddyn ganlynol, pan y pregethodd Whitefield, ac y gweinyddodd sacrament swper yr Arglwydd. Tybir mai dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu mewn adeilad heb ei gysegru, gan offeiriad Methodistaidd, a phrawf yr amgylchiad fod Howell Davies yn meddu cryn feiddgarwch meddwl, a'i fod wedi ymrhyddau oddi wrth Iyfetheiriau yr Eglwys Wladol o flaen ei holl gyd-ddiwygwyr. Ar yr un pryd, yr oedd Howell Harris a Whitefield, mewn undeb a Methodistiaid Lloegr, wedi dyfod i benderfyniad mor foreu a 1743, i weinyddu y cymundeb yn y seiadau pan y gwrthodid y fraint iddynt yn eu heglwysydd plwyfol, a chawsai hyn ei anfon mewn llythyr at Howell Davies. Bu yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd, yn cael eu gweinyddu gyda chysondeb yn Woodstock am 56 o flynyddoedd cyn y neillduad yn 1811. Felly, mewn un ystyr, Woodstock yw mam-eglwys y Cyfundeb. Wrth gyfranu, defnyddiai Mr. Davies was maeth yr Eglwys; ond yn aml torai ar ei draws, gan lefaru am ddyoddefiadau y Gwaredwr gyda nerth a melusder, a orchfygai y rhai a ddaethent i gyfranogi.
Bu yn offerynol hefyd i godi addoldy yn nghwr gogleddol Sir Benfro, a alwyd Capel Newydd. Sefydlasid cymdeithas grefyddol mor foreu a 1743 yn y Cerig