Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun, yr wyf yn hiraethu am fyned yno drachefn yn fuan, canys diau fod Duw gyda hwynt. O berthynas i fy mynediad i'r Gogledd, yr wyf yn meddwl y hydd yn rhy boenus i mi, sydd o hyd yn llesg ac afiach; ond, pa fodd bynag, yr wyf yn penderfynu cynyg hyny, pe y gorfyddai i mi farw ar y ffordd." Nid ychydig o beth i ddyn gwanllyd fel Howell Davies oedd anturio am daith i'r Gogledd yr adeg hono.[1] Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn fynyddig; y lletyau yn wael ac yn anaml; caredigion yr efengyl gan amlaf yn dlodion eu cyflwr, ac yn ychydig eu rhif; yr addoldai yn wael, ac yn oerion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; y rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid yn greulawn fel y bedd; y werin yn derfysglyd a dideimlad; a'r clerigwyr a'r gwyr mawr yn llawn llid, ac yn gwylio am gyfleustra i erlid a baeddu y rhai a gyfrifid fel aflonyddwyr y byd. Nid rhyfedd y dychrynai Mr. Davies wrth feddwl am yr anturiaeth; ond penderfynai fyned, hyd yn nod pe y tröai y daith yn angau iddo. Yr ydym yn cael Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a ganodd iddo, yn cyfeirio at fawredd ei lafur a'i deithiau. Darlunia ddau seraph, o'r enw Cliw a Sirius, yn adrodd hanes ei fywyd i'r angylion:—

"D'wedent i ni fel y teithodd,
Pan oedd yn ei iechyd gynt,
Mynwy, Dinbych, a Chaernarfon,
Môn, Meirionnydd, a Sir Flint;
Fel cyhoeddodd yr efengyl,
Gydag yspryd bywiog, rhydd,
O Lanandras i Dyddewi,
O Gaergybi i Gaerdydd.

D'wedent i ni fel y chwysodd
Fry yn Llundain boblog, lawn,
Wrth bregethu gair y deyrnas,
Weithiau foreu, weithiau nawn;
Bryste, hithau, oer, derfysglyd,
Glywodd swn ei 'fengyl gref;
Tidea thonau, llif a storom,
Gurodd ganwaith arno ef."

Y mae yn amlwg ei fod yn cilio yn ol hyd byth ag y medrai oddiwrth gyhoeddusrwydd. Ysgrifena Howell Harris ato Mawrth 7, 1744: " Ni ddylai eich ofn i'ch llythyr gael ei gyhoeddi yn y Weekly History beri i chwi beidio defnyddio eich ysgrifell; oblegyd ni wnawn hyny heb eich caniatad. Ni wnaf erchi, fy mrawd; yn unig dywedaf fy marn am amcan y papyr. Nis gwn paham na wnai y brawd Davies roddi ei enw yn mysg y rhai a lafuriant ynglyn ag ef, gan ddweyd yr hyn sydd ganddo i'w fynegu am Iwyddiant yr efengyl Yr wyf yn credu fod yr achos mor agos at ei galon a neb, a'i fod yn gwybod cymaint trwy ei sylwadaeth, a dylanwad ei weinidogaeth a neb. Yr wyf yn gwybod ei fod yn eu caru (sef y credinwyr), ei fod yn barod i gyd-gyfranogi o'u dyoddefaint, gan y gwyr eu bod yn llefaru yr un iaith, yn cael eu harwain gan yr un Yspryd, yn ymladd dan yr un faner, a'u bod yn cael eu cyfrif ynghyd gan y gelynion. Ni ddyliai ofn clod ein cadw rhag traethu yr hyn a wyddom, mwy nag y dylai awydd clod beri i ni ei fynegu. Gwyr fy mrawd mai yr Arglwydd sydd yn gwneyd y cwbl, nid nyni." Wedi ei geryddu yn dyner fel hyn am ei yswildod a'i duedd at anghyoeddusrwydd, y mae Mr. Harris yn myned yn mlaen i'w gymhell i'r Gymdeithasfa ddilynol, mewn dull sydd yn dangos y rhoddai bwys mawr ar ei bresenoldeb. "Yr wyf yn gobeithio y daw fy mrawd," meddai, "i gyfarfod y brodyr yn y Fenni, dydd Mercher, yr 28ain. Gellir llanw yr amser wrth fyned a dychwelyd mewn pregethu yn Siroedd Brycheiniog a Mynwy. Yr wyf yn fwy taer, am yr ymddengys nad yw y rheidrwydd o hyn yn pwyso ar galon ein brawd i'r graddau ag y dylai. Bydded i ni gymdeithasu mwy, fel y byddo i'n gelynion deimlo ein bod o ddifrif, ac felly nas gallant ddinystrio un, heb ddistrywio yr oll Bydd y cwn bob amser yn gyru y defaid yn glosach at eu gilydd."

Ymddengys mai Mr. Howell Davies a fu yn offeryn dychweliad Mr. Bateman, ficer St. Bartholomew Fwyaf, yn Llundain, yr hwn, gwedi hyny, a ystyrid fel un o'r rhai mwyaf efengylaidd yn y brifddinas. Ymddengys fod gan Mr. Bateman fywioliaeth fechan yn Sir Benfro. Un tro, pan ar ymweliad achlysurol a'i , blwyf, daeth i'w ran i bregethu yn un o'r eglwysydd yn mha rai y gweinyddai Howell Davies. Yr oedd Mr. Bateman y pryd hwnw heb ei argyhoeddi; ac yr oedd ei bregeth yn Ilawn o gyhuddiadau enllibaidd yn erbyn y Methodistiaid; rhybuddiai ei wrandawyr, er mwyn eu heneidiau, i'w gochel. Gwedi y bregeth, syrthiodd arno ryw brudd-der yspryd, nas gallai roddi cyfrif am dano; ni fedrai na chysgu na bwyta; ac nis gallai fwynhau y gyfeillach anghrefyddol, yn yr hon yr ymhyfrydai yn flaenorol. Aeth i wrando Howell Davies, a hyny i'r un eglwys ag y buasai

  1. Methodistiaeth Cymru.