Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ionawr 13, 1770, ac efe yn dair-ar-ddeg-a deugain oed. Bu farw yn ei balas, sef y Parke. Buasai Elizabeth, ei ail wraig, farw ddeng mlynedd o'i flaen. Ac yn ei hymyl hi, a'i unig-anedig fab, Howell, y rhoddwyd ei weddillion yntau i orwedd yn mynwent Prengast hyd ganiad yr udgorn. Diwrnod tywyll a du i Fethodistiaid Sir Benfro oedd y dydd y claddwyd Howell Davies, ac nid oedd neb a deimlai hyny yn fwy byw na hwy ei hunain. Er fod y pellder o'r Parke i Hwlffordd tuag ugain milltir, yr oedd yr angladd yn un tra lluosog ; ac heblaw y rhai a deithient yr holl ffordd, deuai cwmniau neu dorfeydd o'r gwahanol leoedd, yn mha rai y buasai efe yn gweinidogaethu, i'r croesffyrdd i ddangos eu parch iddo; ac wrth fod yr arch yn pasio wylent yn uchel.

—————————————

EGLWYS PRENDERGAST.
Lle Claddedigaeth Howell Davies

—————————————

Erbyn cyrhaedd Hwlffordd yr oedd y dorf yn anferth, cyrhaeddai lawn milldir ar y ffordd fawr. Mor fawr oedd yr hiraeth ar ei ol, ac mor ddwys y teimlad a lanwai fynwesau pawb, fel y methai yr offeiriaid a weinyddent ddarllen y gwasanaeth claddu. Cyfeiria Williams at hyn yn ei farwnad. Ac yn nghanol cawodydd o ddagrau chwerwon, ac arwyddion o alar na welwyd ond anfynych eu cyffelyb, y gosodwyd Howell Davies i orwedd yn y ddaear. Efe oedd y cyntaf o'r Tadau Methodistaidd a gymerwyd ymaith. Gadawodd yr achos mewn cyflwr llewyrchus yn Sir Benfro ; rhifai ei gymunwyr ef yn unig yn agos dair mil; ac yr oedd y Methodistiaid yn y sir yn dra lliosog. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'i farwnad gan Williams, Pantycelyn:—

"Y mae'r tafod fu'n pregethu
Iachawdwriaeth werthfawr, ddrud,
'Nawr yn dew, yn floesg, yn sychu,
Ac fel yn ymgasglu'n nghyd;
Fflem a lanwodd y pibellau
Oedd yn dwyn y gwynt i'r lan,
Ac mae natur hithau'n methu
Clirio lle i'r anadl gwan.