Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynedd arall o'r amser y bu efe yn guwrad ar eglwysydd Llanwrtyd ac Abergwesyn. Os mai ymgais yw hyn i egluro sut yr aeth mab i ddiacon blaenllaw gyda'r Annibynwyr yn offeiriad, y mae yn gwbl annigonol, ac yn groes i'r gwirionedd. Gwir fod y tad mewn gwth o oedran, o herwydd yr oedd yn 86 mlwydd oed pan y bu farw. Yr oedd hefyd wedi colli ei olygon, canys yr oedd yn ddall hollol am y chwe' blynedd olaf o'i oes; ond yr oedd mewn cyflawn feddiant o'i alluoedd hyd y diwedd, ac yn ŵr o gyneddfau cryfion, Fel prawf o'i nerth a'i yni, digon yw dweyd ddarfod iddo ddwy flynedd cyn ei farw, arwain y blaid Galfinaidd allan o gapel Cefnarthen, a chymeryd lle arall i addoli ar wahan i'r blaid Arminaidd, oedd ar y pryd yn y mwyafrif yn yr eglwys hono. Diau i Williams gael y fantais o gyfarwyddyd ei dad yn gystal a'i fam, pan y penderfynodd fyned i'r Eglwys Wladol, ac nas gwnaeth newid ei enwad crefyddol yn groes i'w teimladau hwy. Pan briododd Williams, yr hyn a wnaed ganddo pan yn 32 mlwydd oed, symudodd o Gefncoed i Bantycelyn, ac aeth a'i fam, yr hon oedd erbyn hyny yn weddw, gydag ef. Bu hi fyw nes ydoedd yn 95 mlwydd oed, ac ni bu farw ond saith mlynedd o flaen ei mab. Yr oedd Williams a'i wraig yn aelodau yn nghapel y Methodistiaid yn Nghilycwm, ond ymddengys i'w fam barhau yn aelod gyda'r Annibynwyr hyd ei bedd. Cadarnheir hyn gan hen lyfr seiat Cilycwm, yr hwn oedd yn cofrestru yr aelodau yn deuluoedd. Ceid ynddo yr enwau: "William Williams, Pantycelyn; Mary, the Wife; Mary, the Maid;" ond nid oedd ,"Dorothy, the Mothcr," ynddo. Cynrychiohd y tri enwad yn Mhantycelyn y blynyddoedd hyny, sef y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Eglwys Wladol.

Y darn mwyaf tywyll yn mywyd Williams ydyw hanes ei ieuenctyd. Yr unig wybodaeth sicr sydd genym am dano yn y cyfnod hwn, ydyw iddo dyfu i fynu heb dderbyn argraffìadau crefyddol dyfnion. Y mae genym ei dystiolaeth ef ei hun ar hyn, fel y cawn weled, eto; ond y mae y cwestiwn pa un ai mewn difaterwch a difrawder y treuliodd y blynyddoedd hyny, neu ynte, a ddarfu iddo eu treulio mewn llygredigaeth ac annuwioldeb, yn fater nas gellir ei benderfynu. Cafodd y fantais fawr o'i ddwyn i fynu ar aelwyd grefyddol.[1] Dywedir am ei dad, heblaw bod yn " henadur llywodraethol " yn eglwys Cefnarthen, sef y ffurf uchaf, meddir, ar y swydd ddiaconaidd, "ei fod yn Gristion addfwyn, gonest, a chywir, ac iddo gael ei fynediad trwy anialwch y byd hwn i'r wlad well yn lled rydd oddiwrth ofidiau." Dyma gymeriad ei dad, fel ei rhoddir i ni gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Ac y mae yn sicr fod ei fam o ymarweddiad cyffelyb. Eithr er fod yr awyrgylch y magwyd ef ynddi yn un grefyddol, a bod dylanwad yr aelwyd gartref yn iachus a dymunol, y mae yn sicr mai tyfu i fynu yn anystyriol a dioruchwyliaeth a wnaeth efe.

Hwyrach nad anfuddiol fyddai ymholi beth ydoedd ystad foesol a chrefyddol y gymydogaeth yr oedd efe yn byw ynddi ar y pryd? Y mae y cwestiwn hwn yn un pur hawdd i'w ateb. Yr oedd ardal Llanymddyfri mor ddyfned mewn llygredigaeth a phechod a'r un yn Nghymru. Hynodid hi gan ei hannuwioldeb a'i drygioni. Uwchben y dref halogedig hon y cyhoeddasai Ficer Pritchard ei felldithion, gan' mlynedd cyn amser y diwygiad; ac y mae genym ddigon o brofion wrth law i ddangos nad ydoedd ronyn yn well yn yr amser hwn. Dyma fel y cyhoeddai yr hen Ficer ei felldithion ar dref Llanymddyfri:

Mene Tecel, tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
Ni chadd ynnot ond y sorod,
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

Cefaist rhybudd lawer pryd,
Nid yw cynghor 'mheuthyn id';
Nid oes lun it' wneuthur esgus,
O! gwae di, y dref anhapus!

Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddi wrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
Ni chawn gennyt ond y gwatwar

Cawn fod plwyfydd Llanfair-ar-y-bryn, Llandingad, a Chilycwm, mewn tywyllwch dudew, ac nad oedd yr offeiriaid, yn nechreuad y diwygiad Methodistaidd, ond gwyliedyddion deillion. Ond beth am yr eglwysi Presbyteraidd oedd yn y gymydogaeth, ai nid oeddynt hwy yn dal yn gryf yn erbyn y llifeiriant oedd yn gordoi y

  1. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 583.