wnes fy ngoreu wrth gyfansoddi hyn o lyfr am ddarllen llyfrau addas at yr achos, fel yr oeddwn yn myned drwyddo, a'r rheiny, os gallwn, yn uniongred a iachus. A phan y gwelwn rywbeth at fy mhwrpas, cymerwn swm hynny i fy meddwl, ac yna rhown rywfaint o'i sylwedd i lawr, wedi ei wisgo a fy ngeiriau fy hun, ond megys yn gyntaf ymborthi arno fel yr eiddo fy hun, a'i gymysgu a'r hyn oeddwn wedi ei wau o fy meddyliau eisioes, yr hyn sydd bell o fod yn feius. Ond y llyfr hwnnw oeddwn yn glynu fwyaf wrtho, sef Llyfr Duw. . . . Yn awr yr wyf yn gadael i hyn o waith i fyned allan i'r byd, a Duw a safo o'i blaid! Y mae arnaf gywilydd o'i blegyd, am fod ei wisgoedd mor dlawd, ac yntef yn cymeryd arno i ganmol Un mor ardderchog. . . . Yr wyf yn gobeithio y bydd i'm Duw ei guddio oddi wrth ddynion cyfrwys, critic, ag sydd yn cymeryd pob gwirionedd i ymresymu yn ei gylch, yn hytrach nag i adeiladu. . . . Pwy bynnag elo i graffu ar y farddoniaeth, mi wn nad oes yma yr un wers heb ei bai. A hyn a'm digalonnodd lawer pryd i'w roi mewn print. A pha hwya' y bo yn fy llaw, mwya' i gyd wy'n ddiwygio arno. Ond y mae arnaf ofn ei gadw yn hwy, rhag tynnu ymaith ei awch. Am hynny, aed fel y mae. Pwy effaith a gaiff, nis gwn i; ond hyn a wn, iddo beri llawer o boen ac o amser i mi esgor arno." Dywed ei fywgraffydd iddo astudio cymaint wrth gyfansoddi y bryddest odidog hon, fel yr effeithiodd yn niweidiol ar ei iechyd am y gweddill o'i oes.
Nid gorchwyl hawdd ydyw elfennu athrylith Williams, a dweyd yn bendant pa le y mae cuddiad ei nerth. Eto, y mae llawer o sylwadau perthynasol iawn wedi eu gwneyd gan feirniaid o enwogrwydd yn y cyfeiriad hwn. Ar ôl bod yn cymharu Coll Gwynfa Miltwn, a Golwg ar Deyrnas Crist Williams, a chyfaddef yr anhawsdra i benderfynu pa un yw y rhagoraf, dywed "Hiraethog" (Dr. William Rees), fel yma: - [1]" Prawf diymwad o wir fonedd cyneddfau awenydd ydy w ei gallu i swyno pob gradd a dosbarth o gymdeithas fel eu gilydd - bod y dealltwriaethau cryfaf, y meddyliau mwyaf caboledig, ynghyd a'r werindorf ddisyml yn gyffredinol yn gallu cyd-fwynhau a chyd-wledda ar ei chynhyrchion. Tery athrylith emynau Williams y galon ddynol fel y cyfryw, nes y cyd-ddychlama teimlad yr athronydd uchelgoeth, a theimlad y bugail gwledig o dan ddylanwad ei gwefriad. Tywysogion mewn dysg a doniau, a phob gradd oddi yno i waered, hyd at y weddw ddinod yn ei bwthyn neillduedig, a gydaddefant eu rhin. Clust dyner-foneddigaidd yr ysgolhaig, a chlust anysgybledig y gwerinwr isel, a'u cyd-fendithia hi, 'pan glywant ei geiriau, canys melus ydynt.' Pair sain ei haceniad i'r llygaid a belydra gan ddealltwriaeth ac hyawdledd, ac i'r llygad mwyaf hwyrdrwm ac amddifad o ddynodiant meddyliol i gyd-ollwng y deigryn dros eu hamrantau. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng natur y mwynhad a brofir gan feddwl coeth a diwylliedig, a'r mwynhad a deimla y meddwl anghyfarwydd, er i ffynonell y mwynhad fod yr unrhyw. Cenir a mwynheir emynau Williams er budd ysprydol gan gannoedd o Gristionogion yn Nghymru, y rhai nad oes ganddynt nemawr i ddim dirnadaeth yn eu dealltwriaeth a'u barn am eu rhagoriaeth cynhenid. Un rheswm am ryfeddol effeithioldeb emynau Williams ydyw eu bod yn llefaru iaith natur gyda'r fath symledd pur a diaddurn. Y maent yn hudo cydymdeimlad ein natur gyda hwynt yn ddiarwybod i ni. Bydd y galon yn toddi, a'r llygad yn gollwng ei ddeigryn heb yn wybod iddynt eu hunain yn nghymdeithas ei ganiadau. Pa un bynag ai hiraeth, ai amheuaeth, ai ofn, ai hyder, ai llawenydd a osodir allan, rhaid i ni gydgyfranogi yn y teimlad, gan mor gywir y mae delweddau wynebpryd pob un o'r teimladau hyn yn cael eu portreadu megys o flaen y meddwl. Nid yw byth yn llefaru mewn tafodiaith galed, neu iaith ddyfnach nag a ddealla y llafurwr anghyfarwydd, ac ni allai yr athraw uchelddysg ychwaith wneuthur cyfnewidiad er gwell yn iaith a dullwedd llaweroedd o'i emynau." Gwneir y sylwadau canlynol gan y Dr. Lewis Edwards arno fel bardd:[2] "Yr elfen gyntaf sydd yn anhebgorol mewn barddoniaeth yw bywyd. Dyma sydd yn gwneyd caniadau Homer mor swynol; nid oes ynddynt ond ychydig o'r hyn a feddylir yn y dyddiau hyn wrth y gair 'arddunawl;' ond y maent oll yn llawn bywyd. Yn yr ystyr y deallid y gair gan Longinus, y maent yn dra arddunawl, oblegyd y maent yn cynhyrfu ac yn tanio y meddwl wrth eu darllen. Ni fu neb yn meddu mwy o'r elfen hon na Williams, o Bantycelyn. Hyn a barodd i hen bererin ddywedyd unwaith yn ein clywedigaeth,