Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

boneddig yn Margam, Sir Forganwg. Ei bwlpud yno oedd bwrdd derw caboledig, ac i'r amcan dyblyg, o beidio niweidio y bwrdd, ac o beidio niweidio ei hun drwy syrthio oddiar y bwrdd llithrig, tynodd ymaith ei esgydiau, a phregethodd yn hwylus yn nhraed ei hosanau, ar y wledd o basgedigion breision, yn Mhrophwydoliaeth Esaiah.

Dro arall, cawn ei fod yn pregethu ar dalcen pont Castellnewydd-Emlyn. Y gauaf oedd hi, ac yr oedd ar amser yr odfa, meddir, yn " dywydd embeidus, ac yn lluwcho eira." Gwisgodd Williams ei gôt fawr, a rhwymodd ddau napcyn ar ei ben, a gosododd het walciog ar hyny. Yr oedd carthen rawn, o'r fath a ddefnyddid i nithio yd ar faes agored, wedi ei rhwymo dros y cyfan gyda ffiled gaws. Pregethodd yn hwylus allan o'r pentwr dillad hyn. Diau fod yr amgylchiad hwn yn un eithafol iawn, er y gwyddis ei fod yn cael ei flino yn dost gan yr "hyp," neu y pruddglwyf, yn ei henaint, sef y cyfnod ar ei fywyd y dywedir i'r peth gymeryd lle.

Yr oedd Morgan Rhys, yr emynydd enwog, yn enedigol o'r un ardal a Williams, sef ardal Llanymddyfri; a buont yn gydaelodau o eglwys Cilycwm, ar un tymhor o'u bywyd. Ffaith hynod ydyw fod dau emynydd mor nodedig a William Williams a Morgan Rhys yn enedigol o'r un ardal, ac yn aelodau o'r un eglwys. Cytunir i osod Williams yn mlaenaf yn mhlith yr emynwyr Cymreig, ac y mae pobl o farn, a "Hiraethog" yn eu mysg, yn gosod Morgan Rhys yn nesaf ato. Arferent adrodd eu hymnau wrth eu gilydd. Byddai Morgan Rhys weithiau hytrach yn amleiriog, ac ambell bryd yn arfer gormodiaeth anochelgar. Un tro, pan yr adroddodd hymn newydd o brofiad pur uchel, dywedodd y prif emynydd wrtho: "Wel, y mae genyt ti yn hona, beth bynag, brofiad Cristion a haner da." Y meddwl oedd ei fod gryn lawer uwchlaw cyrhaeddiad y cyffredin o gredinwyr.

Bellach, rhaid terfynu. Ymddengys ei fod wedi ei fendithio a chyfansoddiad corphorol cryf, a mwynhaodd iechyd da, er ei fod yn hynod esgeulus o hono. Eisteddai i fyny yn aml i ysgrifenu hyd y boreu, ac anfynych yr elai i'w wely hyd ddau o'r gloch. Dygodd hyn y graianwst (gravel) arno, a chafodd ei flino yn fawr yn y blynyddoedd olaf gan y pruddglwyf. Yr oedd mor ofnus ar derfyn ei oes, fel nad elai allan y nos wrtho ei hun. Bu farw Ionawr 11, 1791, yn 74 mlwydd oed, yn y gadair freichiau, lle y gosodasid ef i eistedd tra y taenid ei wely; ehedodd ei enaid i'r orphwysfa dragywyddol y canodd mor odidog am dani, tra yr oeddynt wrth y gorchwyl hwnw. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Llanfair-ar-y-bryn, a phregethwyd yn Mhantycelyn ar yr achlysur gan Mr. Llwyd, Henllan, Cayo, i gynulliad llliosog ag oedd wedi dyfod i weini y gymwynas olaf iddo.

—————————————

OLNODIAD.

—————————————

Ar ol gorphen ysgrifenu y benod hon, tra yn chwilio cofnodau Trefecca, daethom o hyd i ffaith sydd i fesur yn cyfnerthu golygiad a amddiffynir genym ar dudalenau 154-6, ynglyn a'r cyfaddefiad o edifeirwch am afreolaeth, a wnaed gan Williams wrth Mr. Charles o'r Bala. Yr ydym yno yn dal mai edifarhau am iddo beidio oedi ei fynediad allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau a wnaeth efe, hyd nes y caffai ei lawn urddiad gan yr esgob. Cawn yn y cofnodau crybwylledig hanes Cymdeithasfa Fisol Longhollse, pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, Howell Davies, a Howell Harris. Yn mysg pethau eraill, penderfynwyd: "Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw, mewn trefn i gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd." Y dyddiad ydyw Mehefin 8fed, 1743, sef dau fis wedi pasio penderfyniad fod Williams, Pantycelyn, i adael ei guwradiaeth. Dengys hyn fod yr arweinwyr eisioes wedi gweled mai gwell oedd i guwradiaid o dueddiadau Methodistaidd ymfoddloni ar fod dros amser yn ddysgyblion ananilwg, nes iddynt gael eu hordeinio; a'u bod yn cyfrif llafur presenol y cuwradiaid yn llai pwysig na'r gwasanaeth cyflawnach a fyddent yn alluog i'w roddi i'r diwygiad yn y dyfodol Hwyrach mai gwrthodiad yr esgob i urddo Williams a roddodd iddynt agoriad llygaid. Gwelwn yn y penderfyniad uchod eu bod yn trefnu na fyddai i John Jones syrthio i'r un amryfusedd a'r Bardd o Bantycelyn.