yn tybio fod dyfod i'r eglwys, a derbyn y sacrament, unwaith y mis, yn ddigon i beri i ddyn gael ei ddynodi yn aelod o Eglwys Loegr? Y mae genych syniadau chwithig. Ai nid gwneyd y sacrament yn glogyn i ragrith a sism yw peth fel hyn? Ai nid camddefnydd o gorph a gwaed Crist ydyw? Ai nid twyllo pobl ydyw cymeryd arnoch eich bod yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, tra ar yr un pryd yr ydych yn ymdrechu ei dinystrio wreiddyn a changen, gan ddal yr athrawiaethau mwyaf penboeth, ie, athrawiaethau cythreuliaid, oddiwrth ba rai yr wyf yn gweddïo Duw ar iddo waredu pawb dynion?" Yr oedd David Lloyd a Howell Harris yn ddadleuwyr glewion, bob un o ddifrif, a'r naill yn deilwng o ddur y llall. Ar rai pwyntiau, yn arbennig hawl dyn heb ei ordeinio i fyned o gwmpas, dan amgylchiadau neillduol, i gynghori pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd, Harris yn ddiau oedd y buddugwr; ond gyda golwg ar anghysondeb y Methodistiaid yn disgwyl cael y sacramentau yn yr eglwysydd plwyfol, heb dywyllu eu drysau ar unrhyw adeg arall, gan y Parch, David Lloyd yr oedd pen praffaf y ffon. Y gwir yw, nas gellid, gydag unrhyw degwch, alw corph y Methodistiaid, hyd yn nod mor foreu a hyn, yn Eglwyswyr; glynai yr arweinwyr wrthi, gan benderfynu peidio ei gadael heb arweiniad pendant; ond am y cyffredin bobl, ni feddent unrhyw barch iddi. Ni aent y tu fewn i'w muriau ond ar Sul cymundeb; y pryd hwnnw nid aent i'r gwasanaeth cyffredin, nac i'r bregeth, os byddai yno rywbeth o'r fath; gwyddent na fedrai yr offeiriad bregethu efengyl Crist, ac mai baldorddi y ffregod fwyaf ynfyd a wnelai, neu ynte felldithio y bobl a elent o gwmpas i gynghori heb awdurdod oddiwrth yr esgob; felly safent allan o gwmpas y drysau hyd nes y dechreuai gwasanaeth y cymun, ac yna aent at yr allor i gyfranogi o'r elfennau. Rhaid addef fod eu hymddygiad yn anghyson; braidd nad oedd yn anweddaidd; ac ar un olwg nid yw yn rhyfedd fod llawer o'r offeiriaid wedi dod i'r penderfyniad i wrthod y sacrament iddynt. Canlyniad yr anghysondeb hwn oedd fod y Methodistiaid yn anghymeradwy gan Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Meddai Howell Harris: "Y mae pob plaid fel yn ymuno i'n gwrthwynebu." Nid ydym yn sicr na chamgymerodd Rowland a Harris arwyddion yr amserau, ac nad oeddynt yn crefu am arwydd mwy pendant nag yr oedd ganddynt hawl i'w ddisgwyl; dywed y Parch. T. Rees, D.D., pe y buasent yn gadael yr Eglwys Wladol yr adeg hon, y buasai Cymru yn mron oll yn Fethodistaidd. Yr un pryd, y mae yn bosibl fod rhwystrau yn amlwg iddynt hwy, nas gallwn ni sydd yn barnu eu hymddygiad, gant a hanner o flynyddoedd gwedi, gael unrhyw syniad am danynt.
Yn ystod y cyfnod o 1735 hyd ddiwedd 1742, yr oedd cryn lawer wedi cael ei wneyd tuag at gynhyrchu trefn. Y mae yn ddiau y bodolai cydweithrediad rhwng Rowland a Harris er pan ddarfu iddynt gyfarfod gyntaf yn Eglwys Defynog, haf 1737; dallent afael ar bob cyfleustra i gydymgynghori, ac i gydgynllunio gyda golwg ar ddwyn y gwaith mawr yn mlaen; ymholent a'r Diwygwyr Seisnig, perthynol i bob plaid, fel yr oedd y trefniadau a wnelent i raddau mawr yn gynnyrch barn aeddfed. Yn raddol, daeth yr ymgynghoriadau hyn, a gymerent le yn achlysurol pan y byddai rhyw achosion pwysig yn galw, i gael eu trefnu yn mlaen llaw, nes dyfod yn gyfarfodydd rheolaidd. Ar y wynebddalen a flaenora y Trevecca Minutes ceir y nodiad a ganlyn yn llawysgrif Howell Harris ei hun: "Cyfarfyddai y brodyr yn Nghymru am ragor na dwy flynedd cyn dyddiad y Llyfr hwn (sef Ionawr, 1743), unwaith y mis, ac unwaith bob dau fis yn 1740, gan arholi llawer o'r cynghorwyr, a chwilio i geisio lle pob un. Ond ni ddeuwyd i unrhyw drefniant sefydlog (settled agreement) hyd ddyddiad y Llyfr hwn, pan yr anfonwyd am Mr. Whitefield. Ac ymddangosai mai ewyllys Duw, fel ei hamlygid yn ngoleuni unol yr holl frodyr, wedi dysgwyl yn ddyfal wrth yr Arglwydd, a dadleu yr holl fater, oedd: Mai arolygwyr a chynghorwyr anghyoedd oedd y drefn i fod yn mysg y brodyr diurddau; fod y brawd Harris i'w harolygu oll, a'r gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas gymaint ag a fyddo posib i; fod yr arolygwyr i gael adran o wlad (district), a'r cynghorwyr anghyoedd i arolygu cymdeithas neu ddwy, gan ddilyn eu goruchwylion arferol, tra yr oedd rhyw ychydig, ag yr oedd eu doniau a'r fendith a brofid trwyddynt yn ymddangos yn eu cymhwyso at hynny, i fod yn gynorthwywyr i'r arolygwyr, mewn modd mwy cyffredinol." Y mae y nodiad hwn o'r pwys mwyaf. Dengys ddarfod i ymgynghoriadau y Diwygwyr ddechreu cymeryd ffurf reolaidd yn y flwyddyn 1740;