hyn yn hollol annibynol ar eu gilydd; ni feddent unrhyw rwymyn allanol o undeb; yr unig gysylltiad rhyngddynt oedd eu bod oll yn cyfranogi i raddau mwy neu lai o yspryd y diwygiad, a'u bod yn meddu parch diderfyn i Rowland, a Harris, a Howell Davies, y rhai a ystyrid ganddynt fel eu tadau yn Nghrist. Sail bersonol oedd i'r ufudd-dod a roddent i gyfarwyddiadau eu harweinwyr. Pe buasai rhyw gymdeithas yn myned ar gyfeiliorn mewn athrawiaeth, neu yn goddef o'i mewn y rhai drwg, nid oedd unrhyw allu i'w galw i gyfrif, ac i adfer pethau, ond dylanwad personol un o'r Diwygwyr blaenaf. Gwelwyd angenrhaid yn fuan am uno yr eglwysi yn un cyfansoddiad cryf, er mwyn i ddylanwad y diwygiad gael ei barhau, ac er mwyn ei gadw rhag rhedeg yn wyllt. Tua dechreu y flwyddyn 1742, tynasid allan gyfres o reolau ar gyfer y cymdeithasau. ond ni cheisiwyd eu huno mewn trefniant cyffredinol hyd gyfarfyddiad y Gymdeithasfa yn Watford. Y mae yn sicr na chymerwyd y cam pwysig hwn heb lawer o ragfeddwl a rhag ymgynghoriad; ac y mae lawn mor sicr mai i Howell Harris yr ydym yn ddyledus am gynlluniad a gweithiad allan yr hyn a ellir ei alw yn sail y cyfansoddiad Methodistaidd. Efe yn anad un o'r Tadau oedd y trefnydd; yr oedd ei feddwl ffrwythlawn ar waith yn wastad yn cynllunio; ac yn y cyfwng hwn yr oedd wedi bod mewn cydymgynghoriad ag amryw bersonau y tu allan i Gymru, yn gystal ag a'i frodyr yn y Dywysogaeth. Un y bu mewn gohebiaeth ag ef ar y mater oedd Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominster). Yr oedd Mr. Oulton yn ddyn gwir dduwiol, yn llawn o yspryd y diwygiad, ond yn Fedyddiwr cryf. Mewn llythyr ato dywedai Harris fod yn anhawdd iddynt oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg a dull bedydd, a rhyw ychydig o gyffelyb allanolion ydynt .yn fuan i ddarfod; a bod undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunent i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth, amgen adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd, yr hon a brofai ei bodolaeth trwy ei chynydd. "Pe bawn i," meddai, "a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled a mi gyda golwg ar ychydig o bethau allanol" Nis gallai Mr. Oulton gyfranogi yn y syniadau catholig hyn; ffromai braidd wrth Mr. Harris am gyfeirio at fedydd fel un o'r allanolion bychain oedd yn fuan i ddiflanu, gan ei fod yn ordinhad wedi ei sefydlu gan Grist ei hun, ac i aros yn yr eglwys hyd ddiwedd y byd. Maentymiai hefyd fod y trefniadau allanol, y cyfeiriai Harris atynt gyda gradd o ddiystyrwch, lawn mor glir yn y Testament Newydd, ac yn llawn mor hawdd dyfod i sicrwydd gyda golwg arnynt, a'r gwirioneddau achubol Cyfiawnder a Mr. Oulton yw ychwanegu, er na dderbyniwyd ei gynghor gyda golwg ar wneyd bedydd trwy drochiad yn amod aelodaeth, na ddarfu iddo dynu yn ol ei gydymdeimlad a Methodistiaeth o'r herwydd; ond ei fod gwedi hyn yn ysgrifenu at Howell Harris lawn mor gyfeillgar a brawdol, ac yn dangos llawn cymaint o ddyddordeb yn ffyniant y Cyfundeb. Y mae yn sicr ddarfod i sefydliad y Gymdeithasfa achosi pryder dwfn i'r Tadau Methodistaidd; teimlent eu ffordd bob cam a roddent; a diau mai gyda chalonau gorlwythog ac ysprydoedd ofnus y cyfarfuant yn Watford.
Yr ydym wedi cyfeirio at y rheolau i'r societies a dynnwyd allan. Dywed Howell Harris yn ei Fywgraffiad mai efe a'u ffurfiodd; dywedir ar wyneb-ddalen y rheolau eu hunain eu bod wedi cael eu cyfansoddi "gan ŵyr o Eglwys Loegr." Yr eglurhad yw mai Harris a'u drafftiodd; iddynt yn ganlynol gael eu cyflwyno i farn y gweddill o'r arweinwyr, a chael eu cymeradwyo ganddynt; a chwedi hynny iddynt gael eu cyhoeddi yn enw yr oll Y mae y rheolau hyn yn bwysig ynddynt eu hunain; dangosant ysprydolrwydd meddwl dwfn; ond meddant ddyddordeb arbennig ar gyfrif mai dyma y genadwri gyntaf a anfonwyd gan y Methodistiaid at y gwahanol eglwysi. Felly, er eu bod i raddau yn faith, yr ydym yn eu gosod i mewn yn y cyfanswm.
"SAIL, DIBENION, A RHEOLAU Y CYMDEITHASAU NEU Y CYFARFODYDD NEILLTUOL,
a ddechreuasant ymgynnull yn ddiweddar yng Nghymru. — At y rhai y chwanegwyd rhai Hymnau i'w canu yn y Cyfarfodydd neilltuol Gan wŷr o Eglwys Loegr.
"Diar. XV. 22. ' Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor,' &c.
,, xxiv. 6. 'Trwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.'
,, xxvii, 17. 'Haiarn a hoga haiarn.'