eglwysi awd mor bell ag atal o gymundeb y rhai a fynychent gyfarfodydd y Methodistiaid.[1] Yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Ebrill 17, 1744, ceir cyfeiriad at un Thomas Dafydd, a gawsai ei ddiarddel gan yr Ymneillduwyr oblegyd ymgyfathrachu a'r Methodistiaid, a chaniateir iddo aelodaeth, a gwasanaethu fel cynghorwr anghyoedd ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, ond nad ydyw i adael ei alwedigaeth. Yr ydym wedi crybwyll am hen wraig, o'r enw Betti Thomas, yn cael ei bygwth ag esgymundod oblegyd yr un peth, yn ngodreu Sir Aberteifi. Ffynai yr un teimlad yn Lloegr, lle y dyoddefodd y duwiol a'r diragfarn Dr. Doddridge ei erlid yn dost gan yr Ymneillduwyr, am ymgyfathrachu a'r Methodistiaid. Yr oedd yr ysprydiaeth yma yn naturiol wedi cynhyrchu diflasdod yn y Methodistiaid at yr Ymneillduwyr, nes erbyn hyn yr oeddynt wedi myned, mewn llawer man, yn bur bell oddiwrth eu gilydd. Erbyn cymeryd yr oll i ystyriaeth nid yw penderfyniad y Gymdeithasfa yn Watford, gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys, mewn un modd i synnu ato.
Nid oes unrhyw gyfeiriad at Howell Harris, na neb o'r offeiriaid, yn mhenderfyniadau y Gymdeithasfa; ond y mae eu gwaith yn cael ei benodi yn y nodiad, a ddifynwyd gennym yn barod, sydd yn blaenori y cofnodau; sef fod y brawd Harris i arolygu yr holl eglwysi a'r cynghorwyr, a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas hyd byth ag y medrent. Cafodd Howell Harris y gorchwyl a ddymunai ei galon. Os oedd yn bryderus cyn i'r Gymdeithasfa gyfarfod, yr oedd ei yspryd yn llawn hyder a gorfoledd gwedi iddi fyned trosodd. "Penderfynwyd gan yr Arglwydd," meddai, "gyda golwg ar fy arosiad yn Nghymru, fy mod i aros i drefnu y cymdeithasau, i ddarllen, ac i ysgrifennu hyd byth ag y caniatâ fy nghorph. Wrth weled cynllun Duw, fel y dymunaswn iddo fod, llanwyd fy enaid a chariad, fel y llefwn: 'O, gad i mi ddwyn dy holl feichiau di.' Aeth fy nghalon gyda'r rhai a ymadawent a'r Gymdeithasfa." Ymadawodd yntau dydd Sadwrn, ond nid cyn gweddïo yn daer am gael ei gynysgaeddu yn helaeth a'r cymhwysderau gofynnol i'w waith. "O, Iesu," llefai, "er mwyn dy ogoniant dy hun, a'th enw, a'th achos, dyro i mi ffydd, cariad, gallu, a phob doniau, gan fy mod yn eu gofyn er dy fwyn di a'th ogoniant, ac nid i mi fy hun, nid hyd yn nod er mwyn fy iachawdwriaeth; a dyro dy fendith ar fy llafur." Cyd-deithiai amryw frodyr gydag ef, ac yn eu mysg Beaumont a Cennick. Cyrhaeddasant Gelligaer erbyn tua deuddeg. Wrth fod Beaumont yn gofyn bendith ar yr ymborth yno, cafodd Howell Harris ymweliad o'r nefoedd; gweddïodd yn dufewnol am gymorth i fugeilio yr ŵyn; am bob doethineb, cariad, tynerwch, a gofal angenrheidiol at y gorchwyl; a dywed ei fod yn teimlo yspryd y bugail yn barod o'i fewn. Aeth Harris yn ei flaen trwy Cantref, lle y treuliodd ran o'r Sabbath, Felinfach, a Llywel, gan ddychwelyd i Drefecca dydd Iau. Ni fu yno ond dau ddiwrnod, gan fod trefnu y cymdeithasau yn unol a phenderfyniad y Gymdeithasfa, a dwyn yr holl gynghorwyr i ufudd-dod, yn galw arno i fyned o gwmpas. Eithr gwelodd ryw ogoniant yn Nghrist cyn cychwyn i'w daith, na welsai ei gyffelyb erioed o'r blaen, a hynny yn bennaf trwy ddarllen llyfr wedi cael ei ysgrifennu gan un o'r Bedyddwyr ar natur eglwys. Dywed fod dynion yn ymrannu yn bleidiau, er fod natur yr eglwys yn ysprydol, ond fod yr Yspryd yn bendithio rhywbeth perthynol i bob un iddo ef, a'i fod yn rhydd oddiwrth fod mewn caethiwed i blaid.
Erbyn y Gymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant, yr hon a gynhaliwyd Chwefror 3, 1743, yr oedd wedi teithio trwy rannau helaeth o Siroedd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg, gan sefydlu y seiadau, a phregethu yr efengyl. Ni ddywedir pwy oedd yn bresennol yno, rhoddir yn unig y penderfyniadau, y rhai sydd fel y canlyn: "Fod y rhai sydd yn cynghori mewn un seiad i barhau, fel yr ydym yn awr yn eu cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn dyfod i'n Cymdeithasfa nesaf.
"Fod y brodyr W. Williams, Cerigcadarn; William John, Lancothi; Jenkin Jenkins, Llandefathen; David Rees, Tirabbad; Hopkin John, a John Meyrick, i fod fel y maent yn awr yn cael eu trefnu, a'u bod i ddyfod i'r Gymdeithasfa nesaf.
"Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i gyfarfod a ni yno, sef James Tomkins; David Price, Dyserth; Richard Thomas, Ystradfellte; John David, Llandyfeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.
"Fod y brawd John Jones, Cayo, i
- ↑ Trevecca Minutes.