eu brwdfrydedd, yn gorgyfrif, fel y mae yr arfer wastadol ynglŷn a thorfeydd, ond y mae yn sicr fod cynulleidfaoedd Penfro y tro hwn yn anferth, a bod holl drigolion y sir, agos, yn Gymry ac yn Saeson, wedi ymgasglu i wrando yr efengyl.
Cawn ef yn Nghaerfyrddin eto, Ebrill y 20, o'r hwn le yr ysgrifenna: " Pregethais dydd Mercher yn Hwlffordd i o gwmpas wyth mil, ac yn y prydnhawn i amryw filoedd yn Narberth. Y boreu hwn llefarais gyda melusder mawr yn Lacharn. Wrth fy mod yn croesi y geincfor cefais foesgyfarchiad na dderbyniais ei gyffelyb o'r blaen, sef un llong yn tanio nifer o fagnelau, a llongau eraill yn cyhwfan eu banerau. Nis gellwch ddirnad y fath barch a delir i mi yma; y mae Duw wedi darpar Cymru i'm derbyn. Iddo ef boed yr holl glod. Pregethais yn Cydweli i gynulleidfa fawr. Yma (Caerfyrddin) pregethai un o'r offeiriaid yn fy erbyn y Sul diweddaf, gan fy enwi; ond fel fy ngwrthwynebwyr eraill, ac fel gwiber yn cnoi durlif (file), gwnaeth niwed yn unig iddo ei hun. Yr wyf yn cael fy hun fei pe mewn byd newydd, a hwnnw yn un nodedig o ddymunol." Ar y 25, ysgrifenna o Rhaiadr: " Ebrill 22, pregethais yn Nghaerfyrddin i tua deng mil o bobl, a'r anwyl Mr. Rowland ar fy ol, gyda melusder a nerth dirfawr. Cawsom Gymdeithasfa fendigedig arall y dydd blaenorol, ac yr ydym yn awr wedi trefnu holl siroedd Cymru." Ychwanega ddarfod iddo bregethu dydd Sadwrn, y 23, yn Llangathen, lle y caniatawyd yr eglwys iddo, ac yr oedd cynulleidfa fawr wedi ymgynnull; yn yr hwyr pregethodd yn Llanymddyfri. Llefara yn Llanymddyfri foreu y Sul drachefn, a dywed fod Duw gydag ef; ac erbyn yr hwyr y mae yn Aberhonddu, pellder o dair-milldir-ar-hugain, lle y mae cynulleidfa fawr, a hynod foneddigaidd, wedi dyfod ynghyd. Dydd Llun, cawn ef yn Nhrefecca, ac yn yr hwyr yn Gwenfìthen, yn agos i'r Gelli. Am dano ei hun dywed: " Y mae fy nghorph yn wan, ond yr wyf wrth draed fy Mhrynwr; y mae efe yn llywodraethu yn frenin yn fy nghalon, ac yr wyf yn llawenychu, ac yn fuddugoliaethus ar bob peth." Aeth yn ei flaen oddiyno i Lanfairmuallt, ac yna i Gore, yn Sir Faesyfed, y lle olaf y pregethodd ynddo yn Nghymru. Dywed: "Yn wir, cadwodd ein Hiachawdwr ei win goreu hyd y diwedd; yr oedd ein phiol yn rhedeg trosodd." Rhwng wyth a naw yn yr hwyr cychwynnodd am Lanllieni (Leominster), yr hwn le a gyrhaeddodd o gwmpas tri o'r gloch y boreu. Aeth yn ei flaen trwy Henffordd a Ross, a daeth i Gaerloyw oddeutu wyth yn yr hwyr, Ebrill 28. Symia hanes ei daith i fynnu fel y canlyn: " Darfu i mi, mewn tair wythnos o amser, drafaelu pedwar cant o filltiroedd, treulio tri diwrnod mewn dwy Gymdeithasfa, pregethu o gwmpas deugain gwaith, a phasio trwy saith o siroedd. Yma, ynte, mi a osodaf i fynnu fy Ebenezer; mi a ddiolchaf i'r gogoneddus Iesu am ei holl drugareddau; ac o ddyfnder fy nghalon rhof iddo y clod."
Wedi y cwbl, y mae yn sicr na chroniclodd hanes ei holl daith. * Y mae traddodiad yn Nhregaron ddarfod iddo yr adeg hon, neu yn fuan gwedi, ymweled a rhannau o Sir Aberteifi, a'i fod yn pregethu yn y dref honno oddiar y garreg farch, yn ymyl yr hen Grown. Cymry uniaith oedd y gynulleidfa gan mwyaf, ond torrodd allan yn orfoledd mawr yn yr odfa, er mai yr unig air a ddeallid oedd "Haleliwia." Ymddengys hyn ar un olwg yn rhyfedd, ond soniai Dr. Owen Thomas am gyfreithiwr enwog yn Llundain, a arferai fyned i wrando Ebenezer Morris [1] bob nos Sabboth, pan y byddai y gŵr enwog hwnnw yn gweinidogaethu yn y Brifddinas, a bod ei wyneb yn wastad yn foddfa o ddagrau, er na ddeallai air o'r bregeth. Y mae yn sicr i'r ymweliad hwn o eiddo Whitefield fod yn dra bendithiol i Gymru. Cadarnha llythyrau Howell Harris, a Thomas Price, o Watford, ac eraill, yr hyn a ddywed ef am y nerthoedd oeddynt yn cyd-fyned a'i weinidogaeth. Efallai rhai yn Abertawe a Chaerfyrddin y cafodd yr odfaeon rhyfeddaf o'r oll. Dywed Price, Watford, mewn llythyr at Whitefield, yn fuan gwedi, ei fod wedi clywed newyddion gogoneddus am lawer wedi cael eu deffro yn Nghaerfyrddin, un o ba rai ydoedd ddynes anniwair gyhoeddus, a'u bod yn myned i sefydlu seiat yn y dref. Ond yr enwocaf o'r dychweledigion, yn ddiau, oedd Peter Williams, yr hwn, yn laslanc un-ar-hugain oed, oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y dref, ac a aethai yn llechwraidd i wrando y pregethwr hyawdl Saesonig, er gwaethaf gwaharddiad llywydd y sefydliad. Yr oedd tröedigaeth y gŵr, a ddaeth gwedi hyn yn dad esbonwyr Cymru, yn fwy na digon o dal am
- ↑ Ysgrif Mr. Daniel Davies, Ton.